Ewch i’r prif gynnwys

Targedu anaf i'r ymennydd

17 Rhagfyr 2015

Brain scan

Gallai triniaeth 'targedu' newydd gynorthwyo gwellhad cleifion sy'n dioddef o niwed i'r ymennydd

Mae gwyddonwyr o Brifysgol Caerdydd yn credu eu bod, o bosibl, wedi canfod ffordd o gynorthwyo gwellhad a lleihau'r risg o heintiau sy'n peryglu bywydau, ymysg cleifion sydd wedi dioddef anafiadau trawmatig i'r ymennydd.   

Amcangyfrifir bod dros filiwn o bobl yn y DU yn mynd i'r ysbyty bob blwyddyn o ganlyniad i anaf i'r pen, sef un o brif achosion marwolaeth ac anabledd mewn plant ac oedolion 1 - 44 oed.

Y rheswm pennaf am hyn yw'r heintiau sy'n peryglu bywyd, yn ogystal â llid yr ymennydd, a gaiff ei ysgogi gan ymateb imiwnedd naturiol y corff, sy'n ymladd yn erbyn clefydau, sef y 'system ategu' (complement system).

"Pan gaiff meinweoedd eu hanafu mewn damwain, mae'r rhan yma o'r system imiwnedd yn ystyried y meinweoedd fel 'cyrff estron', ac mae'n ymateb mewn ffordd amhriodol, gan wneud y difrod yn waeth byth," meddai'r Athro Claire Harris o Sefydliad Haint ac Imiwnedd y Brifysgol, arweinydd yr ymchwil.

Mae gwyddonwyr o Ysgol Meddygaeth Caerdydd wedi dyfeisio asiant 'targedu' deuol newydd. Pan roddir yr asiant hwn i lygod, roedd yn atal y system ategu yn yr ymennydd rhag gweithio, gan leihau llid yr ymennydd a chynorthwyo gwellhad.

"Mae rhwystro'r rhan yma o'r system imiwnedd ar ôl anaf trawmatig i'r ymennydd, yn helpu meinweoedd yr ymennydd sydd wedi'u niweidio i oroesi, ac mae'n gwella adferiad niwrolegol mewn llygod. 

"Yn anffodus, gallai'r driniaeth hon fod yn niweidiol i bobl, gan fod y system ategu yn hanfodol er mwyn ymladd yn erbyn heintiau. Dyma pam mae'r asiant targedu hwn mor arwyddocaol," dywedodd yr Athro Harris.

"Rydym wedi dyfeisio cyffur sy'n cyfuno dau wahanol weithgarwch mewn un moleciwl – mae un ochr yn 'targedu' y cyffur i safle'r meinweoedd sydd wedi'u niweidio, felly mae'r therapi'n canolbwyntio ar yr union le y mae ei angen fwyaf. Mae'r ail ochr (CD59) yn atal rhan benodol o'r system ategu a fyddai'n achosi rhagor o niwed fel arall.

"Felly, mae'r cyffur hwn yn darparu therapi lle mae ei hangen, gan roi cyfle i'r system ategu ymladd heintiau yng ngweddill y corff."

Cyhoeddwyd y canfyddiadau yn y cyfnodolyn Proceedings of the National Academy of Sciences, a dangosodd y tîm, o dan arweiniad yr Athro Claire Harris a'r Athro Paul Morgan, bod yr asiant 'targedu', pan gaiff ei chwistrellu i lygod yn syth ar ôl anaf trawmatig i'r ymennydd, yn targedu'r meinweoedd a anafwyd yn benodol, gan atal y system ategu rhag gweithio a lleihau llid a difrod niwrolegol. 

Ychwanegodd yr Athro Claire Harris: "Mae datblygu'r asiant targedu hwn yn gam cyffrous iawn. Rydym wedi dangos y gellir ei gyflwyno beth amser ar ôl y trawma, a'i fod yn dal yn effeithiol. Gallai hyn fod yn newid byd i gleifion ag anafiadau pen."