Ewch i’r prif gynnwys

Ymladd Tân fel merch

6 Mawrth 2020

Cyn-fyfyriwr yn herio stereoteipiau rhywedd mewn llyfr newydd i blant

Mae cyn-fyfyriwr Llenyddiaeth Saesneg wedi ysgrifennu llyfr i blant er mwyn lledaenu neges pŵer merched.

Aeth y cyn-fyfyriwr Emma Greenhalgh ati i'w ysgrifennu er mwyn ysbrydoli merched i gredu eu bod nhw hefyd yn gallu bod yn arwyr.

Ac ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod eleni (Mawrth 8) mae'r llyfr plant Firefighter Ruby yn gobeithio rhannu'r neges yn eang.

Roedd y cyn newyddiadurwr sydd bellach yn gweithio i'r Gwasanaeth Tân yn awyddus i gywiro camganfyddiadau am ymladd tanau.  Yn ôl y ffigurau diweddaraf mae 6.4% o ymladdwyr tân Lloegr yn fenywod.

Dywedodd Emma, sy'n Rheolwr Cyfathrebu i Wasanaeth Tân ac Achub Gorllewin Swydd Efrog:

"Pan fydd galwad frys 999 yn cyrraedd, mae'n rhyfeddol gweld yr ymladdwyr tân yn neidio at y gwaith.

Iddyn nhw, y peth pwysig yw bod yn un tîm, sy'n canolbwyntio'n llwyr ar achub bywydau a diogelu pobl ac eiddo.

"Mae pawb yn y tîm wedi'u hyfforddi, yn uchel eu sgiliau ac yn werthfawr. Er gwaethaf rhai mythau i'r gwrthwyneb, mae'r profion i fynd i'r Gwasanaeth Tân yr un peth i bawb.  Mewn gwirionedd mae'r Gwasanaeth Tân yn lle croesawgar i ddynion a menywod."

"Roeddwn i'n awyddus i ysgrifennu'r llyfr hwn i anfon neges wirioneddol gadarnhaol ar lefel sylfaenol, i ddangos i ferched bach eu bod nhw'n gallu bod yn arwyr hefyd!

Nod y llyfr yw ennyn diddordeb y plant gyda stori antur hwyliog, sydd hefyd yn eu dysgu am y gwahanol fathau o achub mae'r Gwasanaeth Tân yn ei gyflawni, a hefyd agor y drws i bosibiliadau yn y dyfodol."

Mae'r achub sy'n digwydd yn y stori wedi'i gynllunio i ddal sylw plant rhwng pedair ac wyth oed gan gyd-fynd â'r neges 'gallaf wneud' sylfaenol.   Aiff y cymeriadau ymlaen i ailddiffinio cysyniadau ystrydebol o ddewrder a chryfder cyn hyrwyddo caredigrwydd, gwaith tîm a hunan-gred.

Ychwanegodd Emma: "Rwyf i wir yn gobeithio y bydd Firefighter Ruby yn dangos i ferched bod unrhyw beth yn bosib.

Mae gyrfa ym maes ymladd tân, a'r cyfle i wneud gwahaniaeth a helpu pobl, yn aml yn cael ei ddisgrifio i fi fel 'y swydd orau yn y byd'.  Gobeithio y bydd y llyfr hwn yn golygu y bydd merched a menywod yn deall bod lle yn y teulu Ymladd Tân iddyn nhw.

Emma Greenhalgh yw awdur y gyfrol a Sarah-Leigh Wills sydd wedi creu'r darluniau i Firefighter Ruby:Because Girls Can Be Heroes Too! ac mae ar gael nawr. I gael rhagor o wybodaeth, dilynwch #BecauseGirlsCanBeHeroesToo.

Rhannu’r stori hon