Ewch i’r prif gynnwys

Galw ar ddarlunydd: Prosiect Pafiliwn y Grange

2 Mawrth 2020

Community Gateway project
Community Gateway project

I nodi a dathlu achlysur ailagor Pafiliwn y Grange, bydd Caerdydd Greadigol a’r Porth Cymunedol yn cydweithio i ddarlunio hanes ailddatblygu’r pafiliwn.

Bydd y prosiect yn cyflwyno amryw straeon sy’n nodi cerrig milltir yn ystod taith ailddatblygu’r pafiliwn. Gan gynnwys, efallai, taith y pafiliwn at ei ail-greu, gobeithion y preswylwyr, rôl pobl greadigol a gweithgarwch creadigol. Byddwn ni’n dewis y straeon hynny ac yn eu rhoi i’r darlunydd.

Hoffen ni gydweithio â darlunydd i greu gwaith celf ar gyfer poster straeon i’w ddadorchuddio ar ddiwrnod ailagor y pafiliwn a’i ddangos yn barhaol ar y waliau yno wedyn. Dylai’r gwaith celf fod ar ffurf print A2 ac arno hyd at 10 cell sy’n cyflwyno’r hanes mae’n ei gynnwys. Dylai fod ym mhob cell lun (yn ogystal, o bosibl, â rhai geiriau mewn amryw ieithoedd – byddwn ni’n rhoi unrhyw destun o’r fath) sy’n dangos rhan o stori ailddatblygu Pafiliwn y Grange.

Rydyn ni’n chwilio am ddarlunydd mae Grangetown yn agos at ei galon - rhywun y bydd yn dda ganddo ddarlunio hanes ailddatblygu’r pafiliwn.

Dyddiad cau: Dydd Llun 9fed Mawrth 2020.  Darganfyddwch mwy yma

Mae Caerdydd Greadigol yn rhwydwaith ym Mhrifysgol Caerdydd - mae’n cysylltu pobl sy’n gweithio mewn sefydliadau, busnesau neu swyddi creadigol yn ardal Caerdydd. Rydyn ni’n cysylltu’r economi greadigol ledled yr ardal, gan hyrwyddo a hwyluso cydweithio er lles economaidd, diwylliannol a chymdeithasol. Trwy annog pobl i gydweithio, rydyn ni o’r farn y gallwn ni wneud Caerdydd mor greadigol ag y bo modd.

Yn 2020, mae Caerdydd Greadigol wedi dewis hyrwyddo’r Porth Cymunedol trwy drefnu achlysuron ar y cyd gan dynnu sylw at waith ein partneriaid a chysylltu rhagor o bobl greadigol â’r prosiect. Mae’r Porth Cymunedol yn rhaglen ymgysylltu gan Brifysgol Caerdydd i drefnu partneriaethau rhwng y Brifysgol a’r gymuned yn Grangetown.

Rhannu’r stori hon