Ewch i’r prif gynnwys

Yr uwch-gyfrifiadur mwyaf sy’n seiliedig ar Arm yn Ewrop

26 Chwefror 2020

Image of largest arm supercomputer
Image of largest arm supercomputer

Bydd cyllid gwerth miliynau lawer o bunnoedd yn dyblu maint uwch-gyfrifiadur GW4, Isambard.

Mae prifysgolion mwyaf blaenllaw’r rhanbarth, Cynghrair GW4, ynghyd â’r Swyddfa Dywydd, Hewlett Packard Enterprise (HPE), a phartneriaid, wedi cael £4.1m gan Gyngor Ymchwil y Gwyddorau Ffisegol a Pheirianneg (EPSRC) i greu Isambard 2, yr uwch-gyfrifiadur mwyaf sy’n seiliedig ar Arm yn Ewrop.

Y Swyddfa Dywydd yng Nghaerwysg fydd cartref y cyfleuster newydd a phwerus gwerth £6.5m, a chaiff ei ddefnyddio gan brifysgolion Caerfaddon, Bryste, Caerdydd a Chaerwysg. Bydd yn dyblu maint GW4 Isambard i gynnwys 21,504 craidd perfformiad uchel a 336 nod.

Darllenwch ragor ar wefan GW4.

Rhannu’r stori hon