Ewch i’r prif gynnwys

Corff ymgynghorol cofnodion cyhoeddus yn penodi arbenigwr Cyfraith Masnach Caerdydd

26 Chwefror 2020

Yr Athro Phillip Johnson

Mae athro yn y Gyfraith yng Nghaerdydd wedi'i benodi'n aelod o gorff ymgynghorol ar gofnodion cyhoeddus.

Cyhoeddwyd bod Philip Johnson, sy'n Athro Cyfraith Masnach yn Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth, wedi'i benodi'n aelod o'r Cyngor Ymgynghorol newydd ar Gofnodion ac Archifau Cenedlaethol (ACNRA).

Corff annibynnol yw ACNRA sy'n cynghori'r Ysgrifennydd Gwladol dros Ddigidol, Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon (y Gwir Anrhydeddus Oliver Dowden ar hyn o bryd) ar faterion yn ymwneud â mynediad at gofnodion cyhoeddus ac sy’n cynrychioli budd y cyhoedd wrth benderfynu pa gofnodion ddylai fod ar agor neu ar gau.

Mae'r Athro Johnson yn ymchwilio i hanes cyfreithiol, eiddo deallusol, a chyfraith gyhoeddus gyda diddordeb penodol yn hanes datblygu polisi a'r broses ddeddfwriaethol. Mae'n Gymrawd y Gymdeithas Hanes Frenhinol ac yn Gymrawd Sefydliad Cyfraith Ewrop. Mae wedi cyhoeddi nifer o lyfrau ac erthyglau ar y gyfraith a hanes gwleidyddol cyfreithiol.

Bydd yr Athro Johnson yn ymuno â'r rhestr ganlynol o bobl broffesiynol ar fwrdd ACNRA:

CADEIRYDD: Syr Terence Etherton, Meistr y Rholiau.

DIRPRWY GADEIRYDD: Mr Trevor Woolley CB, Cyfarwyddwr anweithredol, yr Asiantaeth Olew a Piblinellau; yn flaenorol Cyfarwyddwr Cyffredinol Y Weinyddiaeth Amddiffyn.

Y Fonesig Moira Andrews, Cyfarwyddwr, Praetor Legal Ltd ac ADS Group Ltd; Cymrawd Ymchwil Ymweliadol, Coleg y Brenin, Llundain, cyn Ymgynghorydd Cyfreithol y Llywodraeth..

Ms Hillary Bauer OBE, ymgynghorydd ar faterion diwylliant a threftadaeth; cyn Bennaeth yr Uned Eiddo Rhyngwladol a Diwylliannol, yr Adran Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon.

Ms Liz Copper, Uwch Newyddiadurwr Darlledu BBC.

Ms Lesley Ferguson, Pennaeth Archifau, Historic Environment Scotland.

Dr Helen Forde, hanesydd ac archifydd; cyn aelod bwrdd y Gymdeithas Amgueddfeydd a Llyfrgelloedd, Cadeirydd Bwrdd Ymddiriedolwyr yr Amgueddfa Bost; Is-lywydd y Gymdeithas Hynafiaethau.

Dr Peter Gooderham CMG, cyn Lysgennad i'r CU ac WTO yn Geneva.

Stephen Hawker, ymgynghorydd diogelwch cenedlaethol annibynnol; aelod annibynnol o Bwyllgor Craffu Prifysgol Fetropolitan Manceinion.

Martin Howard, uwch swyddog diogelwch wedi ymddeol yn arbenigo mewn polisi a gweithrediadau diogelwch seiber a chudd-wybodaeth. Penodwyd yn Gydymaith Urdd y Baddon (CB).

Leon Litvack, Athro Astudiaethau Fictorianaidd ym Mhrifysgol Queen’s  Belfast; arbenigwr ar Charles Dickens; aelod o Fwrdd Amgueddfa Charles Dickens; darlledwr llawrydd i'r BBC.

Helene Pantelli, cyfreithiwr yn arbenigo mewn cyfraith masnach; ombwdsmon yn yr Ombwdsmon Ariannol.

David Rossington CB, cyn was sifil; Is-gadeirydd a Thrysorydd Stoll; Trysorydd Earth Trust; Ymddiriedolwyr yr Oxfordshire Community Foundation; Ymddiriedolwr y Celfyddydau yn the Old Fire Station.

Mr Michael Smyth CBE QC (Anrh), Cadeirydd, Glastry Advisory Partners; Aelod a DID y Bwrdd Gwasanaethau Cyfreithiol.

Ms Jeannette Strickland, ymgynghorydd archif a chofnodion annibynnol; cyn Bennaeth Celf, Archifau a Rheoli Cofnodion , Unilever.

Martin Uden CB, cyn Lysgennad yn Seoul; alma mater Prifysgol y Frenhines Mary, Llundain; Ymddiriedolwr elusen genhadol Gristnogol; Cadeirydd Cymdeithas Korea Prydain; Llywydd Cymdeithas Cyn-filwyr Rhyfel Korea Prydain; awdur cyhoeddedig.

Mr John Wood, cyfreithiwr; Aelod Annibynnol o'r Pwyllgor ar Benodiadau Busnes (ACOBA) ; cyn Aelod o Fwrdd Cyfreithiol Comisiwn Elusennau Cymru a Lloegr ac Ymgynghorydd y Bwrdd; cyn Bartner ac yna Ymgynghorydd i Herbert Smith Freehills.

Rhannu’r stori hon