Ewch i’r prif gynnwys

Prosiect CALIN yn ennill €5 miliwn o gyllid ychwanegol

21 Chwefror 2020

Mae’r Rhwydwaith Celtaidd ar gyfer Arloesedd Gwyddorau Bywyd Uwch (CALIN) wedi ennill €5 miliwn o gyllid ychwanegol gan Gronfa Datblygu Ranbarthol Ewrop i barhau â’i waith arloesol i ddatblygu cynhyrchion meddygol newydd gyda busnesau bach a chanolig (SME’s).

Sefydlwyd y rhwydwaith yn 2016 i gydlynu cysylltiadau rhwng prifysgolion Cymru ac Iwerddon â Busnesau Bach a Chanolig, gan gynnig arbenigedd gwyddonol i gwmnïau preifat sydd angen ymchwilwyr ansawdd uchel, a thechnolegau i’w galluogi i gyflawni eu nodau busnes. Mae Ysgol Fferylliaeth a Gwyddorau Fferyllol Prifysgol Caerdydd wedi chwarae rhan fawr yn CALIN ers iddo gael ei sefydlu, ac mae wedi bod yn greiddiol i’w lwyddiant. Mae wedi sefydlu 36 o brosiectau cydweithredol, creu o leiaf 20 o swyddi a chynorthwyo dros 100 o gwmnïau.

Mae rhai o brosiectau CALIN y mae’r Ysgol Fferylliaeth wedi cymryd rhan ynddynt yn cynnwys defnyddio’r maetholion a gesglir yn naturiol gan wymon fel ffynhonnell o fwynau morol, astudio colagen gan frennig (limpets) ymledol ar gyfer defnyddiau posibl mewn smentiau asgwrn, a chwilio am wrthgyrff newydd at ddibenion therapiwtig. Mae arbenigedd gwyddonwyr Prifysgol Caerdydd wedi galluogi’r Busnesau Bach a Chanolig sy’n cymryd rhan yn y gwaith hwn i sbarduno eu hymchwil ymlaen.

Meddai’r Athro Arwyn Jones, prif academydd Prifysgol Caerdydd ar y prosiect, “Mae’r cyllid ychwanegol hwn yn newyddion gwych. Bydd yn ein galluogi i atgyfnerthu ein cysylltiadau â Phrifysgolion Abertawe a Bangor a’r tair canolfan ragoriaeth yn Iwerddon. Mae’n ein galluogi i ehangu ein rhwydwaith helaeth i gefnogi busnesau ar gam cyntaf CALIN, a chefnogi mwy o Fusnesau Bach a Chanolig yng Nghymru ac Iwerddon.”

Mae rhwydwaith CALIN yn rhoi Prifysgol Caerdydd mewn partneriaeth â Phrifysgol Abertawe, Prifysgol Bangor, Coleg Prifysgol Dulyn, Prifysgol Genedlaethol Iwerddon Galway a Sefydliad Cenedlaethol Tyndall.

Rhannu’r stori hon