Cymrodoriaeth Marie Skłodowska-Curie
20 Chwefror 2020
Mae rhagoriaeth ymchwil Ysgol Mathemateg Caerdydd wedi’i chydnabod unwaith eto, gan fod aelod staff wedi ennill Cymrodoriaeth Unigol Marie Skłodowska-Curie uchel ei bri.
Dyfarnwyd Cymrodoriaeth o’r enw COCONUT - Cymhlethdod Cyfrifiadurol mewn Mecaneg Cwantwm i Gydymaith Ymchwil Dr Frank Rösler am ddwy flynedd, fydd yn dechrau yn yr hydref.
Nod y prosiect hwn yn gwella ein dealltwriaeth o sut i gyfrifiannau mewn mecaneg cwantwm a dosbarthu eu cymhlethdod. Cyflawnir hyn drwy ddefnyddio dulliau cyfoes o ddamcaniaeth brasamcanu sbectrol, ynghyd â’r Mynegai Cymhlethdod a Natur Ddatrysadwy a gyflwynwyd yn ddiweddar.
Meddai Dr Rösler: “Yn amlwg, rydw i wrth fy modd gyda’r llwyddiant hwn ac yn teimlo rhyddhad drosto. Diolch yn fawr i Dr Jonathan Ben-Artzi a’r Athro Marco Marletta am eu cefnogaeth a’u harweiniad drwy’r weithdrefn cyflwyno cais.”
Cyflawnodd Dr Rösler ei BSc mewn Ffiseg a’i MSc mewn Ffiseg ym Mhrifysgol Heidelberg, yr Almaen, cyn cyflawni ei PhD mewn Mathemateg ym Mhrifysgol Durham. Ymunodd ag Ysgol Mathemateg Prifysgol Caerdydd fel Cydymaith Ymchwil yn 2018, ac mae ei ddiddordebau ymchwil yn cynnwys damcaniaeth sbectrol gweithredyddion anhunanatgydol. A brasamcanu sbectra.