Ewch i’r prif gynnwys

Newid gwedd treftadaeth Namibia

18 Chwefror 2020

Prosiect Phoenix Heritage i helpu i greu treftadaeth gynaliadwy ar gyfer gwlad sydd â chyfoeth o adnoddau diwylliannol a naturiol

Mae prosiect rhyngwladol yn defnyddio arbenigedd o Gymru i gefnogi treftadaeth gynaliadwy yn Namibia, gyda chymorth ariannol gan Gronfa Ymchwil Heriau Byd-eang

Nod prosiect Phoenix Heritage yw ymchwilio i dreftadaeth yn y wlad hon yn ne-orllewin Affrica, er mwyn creu Cofnod cynaliadwy o’r Amgylchedd Hanesyddol, yn offeryn i ddarparu cyfleoedd ar gyfer blaenoriaethau ymchwil yn y dyfodol, blaenoriaethau rheoli, hyfforddiant ac ymgysylltu â’r cyhoedd.

Fe’i ysbrydolwyd gan waith parhaus Prosiect Phoenix rhwng Namibia a Phrifysgol Caerdydd, dan gyfarwyddyd yr Athro Judith Hall.

Bydd y prosiect arloesol yn cyd-ddatblygu ac yn cyd-fireinio arfer gorau presennol y Deyrnas Unedig ym maes ymchwil a rheoli treftadaeth i’w ddefnyddio yn Namibia.

Wedi’u hysbrydoli gan y partneriaethau sefydledig rhwng Prifysgol Namibia a Phrosiect Phoenix , bydd tîm o academyddion, gweithwyr proffesiynol, rhanddeiliaid a myfyrwyr sy’n hanu o’r Deyrnas Unedig a Namibia yn cydweithio i wella dealltwriaeth o’r adnodd archaeolegol presennol, i gyd-greu system rheoli asedau cynaliadwy i storio gwybodaeth am Asedau Treftadaeth a datblygu strategaethau a sgiliau newydd ar gyfer cofnodi treftadaeth a mynediad.

Mae treftadaeth yn gallu cyfrannu at newid cymdeithasol, gwleidyddol, economaidd ac ecolegol.   Mewn gwledydd sy’n datblygu, fel Namibia, mae cryn heriau i ganfod, rheoli, amddiffyn a chynnal Asedau Treftadaeth, ond mae angen data gwaelodlin da i wireddu eu potensial llawn.

Mae Namibia 40 gwaith maint daearyddol Cymru, ac mae ei phoblogaeth o 2.3 miliwn o bobl yn gymharol fach ond yn amrywiol, mewn cyferbyniad â 3.1 miliwn yn y dywysogaeth.  Ond ar draws y wlad mae angen diogelu a dathlu treftadaeth naturiol a diwylliannol Namibia, a nodau’r prosiect yw casglu a rhannu gwerth yr asedau hyn yn rhyngwladol.

Mae rheoli treftadaeth yn y wlad wedi newid yn sylweddol yn ystod y ddau ddegawd diwethaf: mae’r Ganolfan Dreftadaeth Genedlaethol, a grewyd yn 2003, eisoes wedi sefydlu fframwaith cenedlaethol ar gyfer rhannu a dathlu treftadaeth ddiwylliannol.

Fodd bynnag, er bod y cynllun Datblygu Cynaliadwy yn cynnwys nodau i ddiogelu ‘treftadaeth a hanes, amddiffyn [ein] gwybodaeth draddodiadol, a datblygu [ein] iaith, ac ymdrechion creadigol a diwylliannol yn ogystal â chyfres o ddyheadau i ddatblygu twristiaeth gynaliadwy’, mae llai na 200 o asedau - p’un a ydynt yn safleoedd neu’n wrthrychau - yn y Rhestr Genedlaethol.  Mewn cyferbyniad amlwg, mae Morgannwg a Gwent yn unig yn cynnwys 25,000 o gofnodion.

Bydd prosiect Phoenix Heritage yn sefydlu system rheoli data treftadaeth ffynhonnell agored ar-lein, a ddatblygwyd yng Nghymru, sy’n caniatáu cofnodi a dadansoddi data traddodiadol ochr yn ochr â mapio digidol, delweddau a dogfennau, sydd ar gael mewn amrywiaeth defnyddiol o fformatau, gyda’r gost leiaf, ac am ddim i fyfyrwyr.

Yn cydweithio yng Nghymru mae’r Athro Jacqui Mulville (archaeolegydd sydd â phrofiad o reoli treftadaeth) a Dr Steve Mills (Cyfrifiadura, GIS ac arolwg) plws Cydymaith Ymchwil yn Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd Prifysgol Caerdydd, a Dr Ffion Reynolds o Cadw gwasanaeth amgylchedd hanesyddol Llywodraeth Cymru ac yn Namibia, Dr Goodman Gwasira, Prifysgol Namibia (rheoli treftadaeth, arolwg, a chelf creigiau), y Doctoriaid Andreas Amukwaya a Kauna Mufeti (Cyfrifiadura a GIS) o Brifysgol Namibia a Dr Agnes Shiningayamwe o’r Ganolfan Dreftadaeth Genedlaethol.

Mae’r prosiect hwn gyda Phoenix Heritage yn parhau am chwe mis tan fis Mehefin 2020, ac mae cynlluniau i ddatblygu mentrau pellach gydol y degawd.

Rhannu’r stori hon