Ewch i’r prif gynnwys

BioCymru 2016

14 Rhagfyr 2015

Bio Wales 2016

Y Brifysgol wedi'i henwi'n brif noddwr ar gyfer digwyddiad blaenllaw ym maes gwyddorau bywyd

Mae Prifysgol Caerdydd wedi'i chadarnhau fel prif noddwr BioCymru 2016 - y digwyddiad blaenllaw yn sector y gwyddorau bywyd yng Nghymru, ac un o gynadleddau pwysicaf y DU yn y maes.

Cynhelir y digwyddiad, sydd yn ei 14eg flwyddyn erbyn hyn, yng Nghanolfan Mileniwm Cymru ar 1-2 Mawrth 2016. 

Meddai'r Athro Dylan Jones, Dirprwy Is-Ganghellor, Coleg y Gwyddorau Biofeddygol a Bywyd: "Rydym yn hynod falch o fod yn rhan o un o gynadleddau gwyddorau bywyd mwyaf blaenllaw'r DU a gynhelir yng Nghymru.

"Bydd y digwyddiad yn denu cynulleidfa ryngwladol ac yn gyfle euraidd i ni arddangos ein harloesedd mewn gwyddorau bywyd a pharhau i ddatblygu cysylltiadau pwysig â busnes a diwydiant.

"Yn ddiweddar iawn, cafodd y Brifysgol ei henwi'n 'Ganolfan Rhagoriaeth' mewn rhwydwaith o ganolfannau i ddatblygu meddygaeth fanwl ledled y DU. Mae hyn yn gydnabyddiaeth bellach o'n harbenigedd mewn ymchwilio a datblygu technolegau arloesol ar gyfer sector gofal iechyd y DU, yn ogystal â'n parodrwydd i gydweithio â rhanddeiliaid cenedlaethol a byd-eang.

Cysylltu a Chydweithio yw thema digwyddiad eleni gan adlewyrchu'r llwyfan unigryw a gynigir gan y gynhadledd ar gyfer y rhai fydd yn bresennol i ddatblygu cysylltiadau a chyfleoedd i gydweithio. 

Mae'r digwyddiad yn adeiladu ar gryfder cydweithredol Cymru. Mae'n dwyn ynghyd arbenigwyr y diwydiant, buddsoddwyr mewn gwyddorau bywyd a rhwydweithiau rhyngwladol, ac mae'n canolbwyntio ar ryngweithio rhwng busnes, y byd academaidd a gofal iechyd.

Ychwanegodd yr Athro Hywel Thomas, Dirprwy Is-Ganghellor, Ymchwil, Arloesedd ac Ymgysylltu:  "Ym Mhrifysgol Caerdydd, mae gennym ddiwylliant ymchwil ffyniannus ac arloesol. Mae'n cysylltu ein hacademyddion â diwydiant, busnesau, llywodraeth a'r trydydd sector yng Nghymru, y Deyrnas Unedig a thu hwnt.

"Bydd ein campws arloesedd newydd, sy'n costio £300m, yn helpu i droi cwestiynau ymchwil yn atebion ar gyfer y 'byd go iawn' gan drawsnewid ein gwaith ac ysgogi twf economaidd."

Mae modd cofrestru ar gyfer BioCymru nawr. Cewch ragor o wybodaeth yn www.biowales.com/registration.

Rhannu’r stori hon