Ewch i’r prif gynnwys

Edrych eto ar Ewrop yn ystod cyfnod y chwyldroadau

6 Chwefror 2020

Llyfr newydd gan hanesydd o Gaerdydd am ddatblygu cymunedau yn ystod y 19eg ganrif

Mae llyfr newydd gan academydd ym Mhrifysgol Caerdydd yn cyflwyno safbwynt newydd ar chwyldroadau trwy ystyried sut y ceisiodd gwleidyddion ailddiffinio undod cymdeithasol a sofraniaeth.

Mae Revolutionary Europe: Politics, Community and Culture in Transnational Context, 1775-1922 yn astudiaeth newydd o fudiadau gwleidyddol radicalaidd rhwng Chwyldro America a Chwyldro Rwsia.

Mae llyfr diweddaraf hanesydd y Dr Gavin Murray-Miller yn disgrifio chwyldro yn broses datblygu cymunedau ac uniaethu diwylliannol yn sgîl argyfyngau cymdeithasol a gwleidyddol eithaf difrifol yn hytrach na grym cwbl ddamcaniaethol yn y gymdeithas neu ffenomen strwythurol.

Gan nodi trobwyntiau gwleidyddol yn ystod chwyldroadau Ffrainc a Rwsia a’r rhai ym 1848, mae’n trafod sut y ceisiodd gwleidyddion greu diffiniadau newydd o sofraniaeth ac undod cymdeithasol mewn cyfnod ac ynddo lawer o newidiadau cymdeithasol, economaidd a llywodraethol.

Mae’r astudiaeth yn trafod Prydain a llawer o gyfandir Ewrop yn ogystal â sôn am wledydd yr Iwerydd a’r Canoldir, gan ddangos cyd-destunau cenedlaethol a rhyngwladol a chynnwys dadleuon newydd am hanes yr Iwerydd, astudiaethau am ymerodraethau a hanes diwylliannol.

“Ac yntau’n deall yn drylwyr y deunydd helaeth am y pwnc hwn, mae Gavin Murray-Miller yn trafod yn fanwl achosion a chanlyniadau canrif a hanner o chwyldroadau yng ngwledydd Ewrop a’u trefedigaethau yn America gan ddod â’r cyfan i ben mewn pennod hynod ddiddorol am y modd mae chwyldroadau wedi’u defnyddio yn y byd ‘nad yw’n perthyn i’r gorllewin’. Bydd darllenwyr y llyfr hwn yn elwa’n fawr arno.” –  Y Dr Jack Censer, Prifysgol George Mason, UDA

Mae’r llyfr wedi’i sbarduno’n rannol gan ymchwil ac addysgu ar gyfer modiwl i israddedigion yng Nghaerdydd, Europe and the Revolutionary Tradition in the Long Nineteenth Century, lle mae ymchwil ac addysgu wedi’u gweu ynghyd mewn trefn addysgu sy’n dilyn ymchwil.

Meddai’r Dr Murray-Miller, awdur The Cult of the Modern, hefyd: “Cefais lawer o hwyl wrth ysgrifennu’r llyfr hwn. Mae’n cwmpasu cyfnod hir ac mae’n gysylltiedig â’r addysgu roeddwn i’n ei wneud wrth ei lunio. Byddai seminarau wythnosol gyda’r myfyrwyr yn cynnig cyfle bob amser i ofyn cwestiynau newydd ac ystyried problemau newydd. Rwy’n credu bod yn y llyfr rywbeth i fyfyrwyr ac ysgolheigion fel ei gilydd.”

Mae’r Dr Gavin Murray-Miller yn Uwch Ddarlithydd Hanes Ewrop Fodern ac mae ganddo ddiddordeb arbennig yn y canlynol: Ffrainc Fodern, Astudiaethau Cenedlaetholdeb a Dinasyddiaeth, Oes y Chwyldroadau, Mudiadau Gwleidyddol Radicalaidd, Islam yn Ewrop a Materion Amlddiwylliannol.

Mae Revolutionary Europe: Politics, Community and Culture in Transnational Context, 1775-1922 wedi’i gyhoeddi gan Bloomsbury.

Rhannu’r stori hon