Ewch i’r prif gynnwys

Arddangosfa Cloddio Gwaed Morgannwg yn ymweld ag Addysg Barhaus a Phroffesiynol ym mis Mawrth

4 Chwefror 2020

Pneumoconiosis
Niwmoconiosis, Y Llwch Marwol’, Dawns y Glowyr, Gerddi Sophia, Caerdydd

Y gwanwyn hwn, rydym yn croesawu arddangosfa Gwaed Morgannwg sydd ar fenthyg gan Archifau Morgannwg.  Mae’r arddangosfa’n archwilio cofnodion iechyd a lles o ledled meysydd glo de Cymru.

Mae’r cofnodion yn cynnwys amrywiaeth o eitemau o’r diwydiant glo, gyda phapurau ar bynciau fel band y lofa, baddondai pen pwll, trychinebau yn y pwll a chyflogau.  Mae’r arddangosfa hefyd yn cynnwys Sefydliadau’r Glowyr, sef canolbwynt bywyd addysgiadol, diwylliannol a chymdeithasol cymunedau’r maes glo. Rydym yn credu bydd y pwnc hwn o ddiddordeb arbennig i’n cydweithwyr a’n myfyrwyr.

Un o uchafbwyntiau eraill yr arddangosfa yw canllawiau i ddefnyddio’r baddondai pen pwll o’r llawlyfr lles gwreiddiol, sy’n esbonio:

Gofynnwch i’ch ‘butty’ olchi eich cefn. Yna golchwch ei gefn yntau. Nid yw’r un gosodiad diweddaraf wedi darganfod ffordd well o olchi cefnau eto.

Llawlyfr cyfarwyddiadau baddonau pen pwll, Glofa Fernhill
Llawlyfr cyfarwyddiadau baddonau pen pwll, Glofa Fernhill

Bydd yr arddangosfa’n agored i’r cyhoedd yn Ystafell Gyffredin y Myfyrwyr. Mae modd cyrraedd hon drwy ein cyntedd yn Adeilad Addysgu Barhaus a Phroffesiynol o 3 Mawrth tan 24 Mawrth.

Os ydych wedi cael eich ysbrydoli i ddysgu mwy am hanes lleol, ewch i dudalennau ein cwrs hanes i weld y cyrsiau rhan-amser yr ydym yn eu cynnig drwy gydol y flwyddyn.

Rhannu’r stori hon