Ewch i’r prif gynnwys

Ein Canolfan Ieithoedd Arobryn

30 Ionawr 2020

 Zora and Elsa
Zora and Elsa

Hon yw’r ail flwyddyn olynol i Addysg Barhaus a Phroffesiynol (CPE) ac Ysgol Ieithoedd Modern (MLANG) Caerdydd gael cydnabyddiaeth gan Sefydliad Siartredig yr Ieithyddion (CIOL) am fod yn ganolfan arholi ieithoedd ragorol.

Eleni, rydym wedi derbyn dwy wobr CIOL.  Cawsom ni lwyddiant y llynedd am yr eildro pan dderbynion ni Dlws Nuffield am Gynnig Gorau gan Grŵp ar gyfer Diploma mewn Cyfieithu ar y Pryd mewn Gwasanaeth Cyhoeddus. Eleni, cyflawnon ni’r Cynnig Gorau ar gyfer y Diploma Cyfieithu hefyd.  Dyrennir y gwobrau hyn i'r ganolfan lle mae ymgeiswyr wedi cyflawni'r sgoriau cyfunedig uchaf ar draws pob canolfan arholi yn y DU a thramor.

Mae’r ddwy wobr yn gydnabyddiaeth wych am waith caled yr ymgeiswyr, sy’n cynnwys myfyrwyr o’n cyrsiau Cyfieithu ar y Pryd mewn Gwasanaethau Cyhoeddus.  Bob blwyddyn, rydym hefyd yn croesawu aelodau o’n cymuned sydd am gael cydnabyddiaeth broffesiynol fel cyfieithwyr ar y pryd yn y sectorau Iechyd a Chyfreithiol, ac yn dewis astudio ein cyrsiau rhan-amser yn rhan o’u paratoad ar gyfer yr arholiad. Rhaid talu teyrnged hefyd i’n cydweithwyr sy’n ymwneud â phrosesu cofrestriadau ymgeiswyr a threfnu’r arholiadau sy’n gwneud yn siŵr bod y broses gyfan yn hwylus ac yn deg.

Mae Zora Jackman yn addysgu’r cyrsiau Cyfieithu ar y Pryd yn DPP, a dywedodd:

“A minnau wedi pasio arholiadau DPSI rai blynyddoedd yn ôl, mae gen i gryn barch tuag at yr holl ymgeiswyr; fodd bynnag, rydw i’n arbennig o falch o’n myfyrwyr ar y cyrsiau Cyfieithu ar y Pryd mewn Gwasanaethau Cyhoeddus, sy’n buddsoddi llawer o amser, ymdrech ac adnoddau i mewn i’w paratoad, a hynny’n aml ochr yn ochr â gweithio’n ogystal â gofalu am eu teuluoedd. Rwy’n eu hedmygu am eu hymrwymiad i’w hastudiaethau ac am eu penderfyniad cadarn i gael cydnabyddiaeth broffesiynol mewn proffesiwn mor heriol ond gwerth chweil.”

Cynhaliwyd y seremoni flynyddol yn Llundain; ar y cyfan cafodd 15 o wobrau eu cyflwyno i unigolion, timau, sefydliadau, ysgolion a chanolfannau ieithoedd gan ei Uchelder Brenhinol y Tywysog Michael o Gaint, Noddwr Brenhinol CIOL. Cafodd gwobrau DPSI a DPI eu casglu gan Zora Jackman, ynghyd ag Elsa Cowie, oedd yn bennaf gyfrifol am sefydlu rhaglen Cyfieithu ar y Pryd mewn Gwasanaethau Cyhoeddus ddegawd yn ôl ym Mhrifysgol Caerdydd.

Rhannu’r stori hon