Ewch i’r prif gynnwys

Adroddiad iaith newydd yn dathlu llwyddiant prosiectau arloesol ysgol

27 Ionawr 2020

Mae dwy fenter lwyddiannus a grëwyd yn yr Ysgol Ieithoedd Modern wedi’u nodi fel enghreifftiau o arfer gorau mewn adroddiad newydd ar ddysgu iaith.

Mae cynlluniau Ieithoedd i Bawb a Mentora Ieithoedd Tramor Modern Prifysgol Caerdydd yn ddwy fenter a amlygwyd yn adroddiad mis Ionawr y Sefydliad Polisi Addysg Uwch (HEPI), ‘A Languages Crisis?’

Mae’r adroddiad yn edrych ar y dirwedd bresennol ar gyfer dysgu iaith yn y DU, ac yn trafod yr hyn y mae’n rhaid ei wneud i gynyddu nifer y bobl sy’n astudio ieithoedd mewn ysgolion a phrifysgolion. Mae’n trafod y mesurau y mae holl ranbarthau’r DU yn eu rhoi ar waith i wella’r broblem, ac yn tynnu sylw at y rhai hynny sydd eisoes yn llwyddiannus wrth annog pobl ifanc i fod yn amlieithog.

Yn adran yr adroddiad sy’n trafod Cymru, caiff y cynllun Mentora Ieithoedd Tramor Modern, a sefydlwyd yn 2015, ei drafod fel enghraifft o sefydliad addysg uwch sy’n cefnogi ysgolion drwy gynnig arbenigedd ieithyddol gan staff ac academyddion.

Mewn partneriaeth â phrifysgolion Abertawe, Aberystwyth a Bangor, mae'r prosiect wedi mabwysiadu dull cenedlaethol o gynyddu dealltwriaeth rhyng-ddiwylliannol a hyrwyddo dysgu ieithoedd ar gyfnodau allweddol. Mae mentoriaid myfyrwyr yn cynnal sesiynau mentora a hyfforddi wythnosol ar gyfer y disgyblion sy’n cael eu mentora mewn grwpiau bach ar draws y flwyddyn academaidd. Mae’r tîm wedi cael llwyddiant ysgubol, gan weithio gyda bron hanner yr ysgolion uwchradd yng Nghymru. Mae ysgolion partner wedi cyhoeddi bod nifer y disgyblion sy’n dewis ieithoedd ar lefel TGAU wedi dyblu ar gyfartaledd, a bod gwell cymhelliant i barhau i astudio a mynd i’r brifysgol.

Mae’r adroddiad hefyd yn crybwyll y rhaglen Ieithoedd i Bawb sy’n rhan o’r Ysgol Ieithoedd Modern ond a gynigir i’r holl fyfyrwyr ledled y Brifysgol. Mae’r ffordd y mae’r rhaglen wedi’i dylunio a’i dull cyflwyno yn arloesol, mae’n rhad ac am ddim a gall myfyrwyr fynd i ddosbarthiadau wythnosol neu gyrsiau carlam mewn ieithoedd megis Arabaidd, Ffrangeg, Almaeneg, Eidaleg, Japaneeg, Mandarin, Portiwgaleg, Rwsieg a Sbaeneg. Mae’r cynllun wedi’i gynnig yn y Brifysgol ers 2014, ac mae’n agored i’r holl fyfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig.

Wrth drafod yr adroddiad, dywedodd Pennaeth yr Ysgol, yr Athro Kate Griffiths, “Mae cynnwys dau o’n prosiectau yn adroddiad HEPI yn cadarnhau statws yr Ysgol fel arweinydd ym maes dysgu ieithoedd yn y DU. Rydym ar flaen y gad o ran ein syniadau i sicrhau bod modd i bawb ddysgu ieithoedd ar bob cam o addysg waeth beth fo'u cefndir cymdeithasol neu leoliad daearyddol. Rydym yn gwerthfawrogi ieithoedd a dysgwyr ieithoedd yma yng Nghaerdydd. Rydym yn hyrwyddo'r profiadau a'r cyfleoedd cyfoethog a ddaw yn sgil dysgu ieithoedd.”

Rhannu’r stori hon