Ewch i’r prif gynnwys

Creu Cadwyn Bloc (Blockchaining) mewn cadwyni cyflenwi

17 Ionawr 2020

Blockchain spelled on Scrabble tiles

Mae Darllenydd mewn Logisteg a rheoli Gweithrediadau o Ysgol Busnes Caerdydd wedi rhoi benthyg ei harbenigedd i Sefydliad Brenhinol y Syrfëwyr Siartredig (RICS) mewn ymgais i gynyddu ymwybyddiaeth a rhannu gwybodaeth am dechnoleg Cadwyn Bloc (blockchain) mewn cadwyni cyflenwi.

Cyflwynodd Dr Yingli Wang ddosbarth meistr ar gadwyn bloc mewn cydweithrediad â phartneriaid diwydiannol o Arup a Nomitech yng Nghynhadledd Amgylchedd Adeiledig Digidol RICS 2019, gyda gweminar yn dilyn ar rôl cadwyn bloc yn yr economi gylchol ar gyfer Fforwm Amgylchedd Adeiledig y Byd.

Cynhaliwyd y gynhadledd yn Farringdon, Llundain, ar thema cadwyn bloc, ac effaith amrywiol gymwysiadau’r dull hwn ar y galwedigaethau yn yr amgylchedd adeiledig a naturiol.

Roedd Dr Wang yn un o ddeg siaradwr arbenigol oedd wedi dod o’r diwydiant, y byd academaidd a gwasanaethau proffesiynol i gyflwyno’r dosbarth meistr.

Roedd ei sesiwn yn canolbwyntio ar roi sylw i gwestiynau allweddol, gan gynnwys:

  • Sut gallai cadwyn bloc newid trafodion eiddo diriaethol?
  • Beth yw manteision cadwyn gyflenwi a alluogir gan gadwyn bloc?
  • Allai cadwyn bloc sbarduno gwell defnydd o adnoddau a dileu gwastraff deunyddiau?

Yn dilyn llwyddiant dosbarth meistr Dr Wang yn y gynhadledd, gwahoddodd RICS hi i gymryd rhan mewn gweminar trawsffurfio digidol ar rôl cadwyn bloc yn yr economi gylchol, yn benodol yng nghyswllt yr amgylchedd adeiledig.

Mewn cydweithrediad â’r partneriaid diwydiannol Kevin O’Grady, Cyfarwyddwr Cyswllt yn Arup, ac Alexander Bardell, Sylfaenydd SDAvocate, bu Dr Wang yn dadansoddi gallu cadwyn bloc i olrhain a phrofi tarddiad er mwyn cyflawni gwerth mewn cadwyni cyflenwi yn yr economi gylchol.

Creu gwerth

Yn dilyn cyflwyniad byr i gysyniad yr economi gylchol gan Mr Bardell, bu Dr Wang yn canolbwyntio ar alluoedd unigryw technoleg cadwyn bloc o gymharu â strwythurau cofnodi eraill.  Mae’r rhain yn cynnwys:

  • Gwelededd paralel
  • Tryloywder
  • Perchnogaeth
  • Gallu i olrhain
  • Masnachu rhwng cymheiriaid
  • Contractio clyfar.

Fodd bynnag, pwysleisiodd fod rhaid sicrhau achos cryf dros fabwysiadu’r dechnoleg hon i ddefnyddwyr yn yr economi gylchol, dros ben tarddiad a gallu i olrhain.

“Dydych chi ddim yn rhoi system cadwyn bloc ar waith er ei mwyn ei hun, mae angen i chi feddwl am greu gwerth. Naill ai mae gennych chi broblemau yn eich cadwyn gyflenwi oddi mewn i’r economi gylchol, ac rydych chi’n tybio y gall cadwyn bloc eich helpu i’w datrys, neu rydych chi’n gweld cyfleoedd busnes newydd sy’n deillio o ddefnyddio cadwyn bloc.”

Yr Athro Yingli Wang Professor in Logistics and Operations Management, Deputy Head of Section - Research, Impact and Innovation

Gan dynnu ar ei gwaith ymchwil helaeth ar gadwyn bloc, rhannodd Dr Wang astudiaeth achos ar Walmart.

Mae’r uwch-gwmni masnachu amlwladol wedi gorfodi ei holl gyflenwyr llysiau gwyrdd deiliog i ddefnyddio cadwyn bloc, fel bod modd olrhain cynnyrch yn ôl i’r ffynhonnell mewn eiliadau, os bydd angen gwneud hynny ar unrhyw adeg.

Wrth fyfyrio ar y dull hwn o roi cadwyn bloc ar waith mewn cadwyn gyflenwi, dywedodd: “Mae ganddyn nhw reswm da iawn i wneud hyn, oherwydd os oes problem iechyd a diogelwch gyda’u cynnyrch, gallan nhw eu holrhain a’u hadalw’n gyflym iawn.  Wrth ddefnyddio dulliau traddodiadol, gallai’r broses hon gymryd diwrnodau, os nad wythnosau.

“Yn y dyfodol, bydd yn anochel bod yr amgylchedd adeiledig yn dilyn yr un llwybr”, dywedodd wrth gloi.

Mae RICS yn gorff proffesiynol a gydnabyddir yn fyd-eang, a luniwyd i gyflawni newid cadarnhaol yn yr amgylcheddau adeiledig a naturiol.

Rhannu’r stori hon

Yma, cewch wybod sut mae ein rhagoriaeth ym meysydd ymchwil, trosglwyddo technoleg, datblygu busnesau a mentrau myfyrwyr, yn arwain ein gweledigaeth.