Ewch i’r prif gynnwys

Defnyddiwch eich sgiliau hyfforddi a mentora i helpu newid bywydau

6 Ionawr 2020

Students in the library
Students in the library

Gall y broses mentora roi llawer o foddhad i chi, yn enwedig os ydych chi'n gallu helpu eraill i gyrraedd eu potensial. Mae Addysg Barhaus a Phroffesiynol (CPE) yn cynnig cwrs Hyfforddi a Mentora sy'n dechrau ym mis Ionawr i'ch arfogi gyda'r wybodaeth a'r sgiliau sydd eu hangen arnoch i fod yn fentor.

Rydym yn croesawu Natalie Hughes i addysgu'r cwrs rhan-amser hwn.  Mae gan Natalie gyfoeth o brofiad yn y maes hwn, yn ogystal â diddordeb mewn ehangu cyfranogiad. Yn ystod y cwrs, cewch gymorth i ddatblygu eich gallu i sefydlu perthynas, gwella eich sgiliau gwrando a'ch hyfedredd i sylwi ar faterion a godir gan eich mentorai, ac ymateb iddynt.  Er ei fod yn hynod o ymarferol, mae'r cwrs yn cynnwys theori i gefnogi'r broses o fyfyrio a gwerthuso'r arfer o fentora.

Dywedodd Natalie:

"Rydw i wir yn edrych ymlaen at addysgu'r cwrs ym mis Ionawr. Mae gen i dros 20 mlynedd o brofiad yn gweithio ym maes addysg i oedolion ac wedi datblygu nifer o gyrsiau eraill dros y blynyddoedd. Rydw i'n angerddol am hyfforddi a mentora ac yn frwdfrydig i drosglwyddo'r sgiliau hyn i eraill, a byddwn yn annog mwy o bobl i fentora ei gilydd."

I gofrestru ar y cwrs, ewch i'n tudalen cwrs.

Rhannu’r stori hon