Ewch i’r prif gynnwys

Daeargrynfeydd araf

2 Ionawr 2020

Gallai'r ymchwil ddiweddaraf gan geowyddonwyr ar ddaeargrynfeydd araf nad ydyn nhw'n ddinistriol helpu i wella rhagfynegi daeargrynfeydd a tsunamis.

Mae daeargrynfeydd rheolaidd yn digwydd pan fydd craig o dan y ddaear yn torri'n sydyn ar hyd ffawt - crac yng nghramen y Ddaear sy'n aml yn ffurfio ffin rhwng platiau tectonig - gan beri i ynni gael ei ryddhau sy'n gwneud i'r ddaear grynu.

Tra bo daeargryn rheolaidd yn llithriad cyflym, mae daeargryn araf yn digwydd pan fydd ffawtiau'n gwasgu'n eithriadol o araf yn erbyn ei gilydd. Gall hyn barhau am wythnosau, misoedd neu hyd yn oed flynyddoedd weithiau. Mae daeargrynfeydd araf yn aml yn symud drwy'r Ddaear, a does neb yn teimlo dim. Gan eu bod yn digwydd yn ddwfn yn y ddaear ac yn rhyddhau ynni mor raddol, ceir effaith finimal ar yr wyneb, hyd yn oed pan fydd yn effeithio ar ardal o filoedd o gilometrau sgwâr.

Mae gan Dr Ake Fagereng o Ysgol Gwyddorau'r Ddaear a’r Amgylchedd Prifysgol Caerdydd a'i gydweithwyr ddiddordeb arbennig yn y berthynas rhwng y ddau fath o gryndod a'r amgylchiadau sy'n eu hachosi, ac yn ymchwilio iddyn nhw fel rhan o brosiect o'r enw MICA.

Dywedodd Dr Fagereng, 'Os gallwn ni wneud synnwyr o hyn, yna gobeithio y gallwn ni ddeall a all yr amgylchiadau hyn newid, fel bod daeargryn yn cyflymu.'

Mae'r tîm wedi bod yn drilio mewn ardal alltraeth yn Seland Newydd sy'n profi daeargrynfeydd araf, yn ogystal ag ymweld â rhanbarthau yn Japan, Namibia, Cyprus a'r DU y byddent wedi eu profi yn y gorffennol. Mae daeargrynfeydd araf yn digwydd yn ddwfn dan arwyneb y Ddaear, sy'n anodd ei astudio, felly mae'r ymchwilwyr wedi dewis ardaloedd oedd â'r amgylchiadau priodol ar un adeg ond sydd bellach ar yr arwyneb.

'Rydym ni'n edrych am strwythurau a ffurfiwyd (o ganlyniad i ddaeargrynfeydd araf) a'r hyn maen nhw'n ei ddweud wrthym ni am sut y deliodd y creigiau â'r llithriad. Rydym ni'n gobeithio dysgu rhywbeth am y berthynas rhwng daeargrynfeydd araf a daeargrynfeydd rheolaidd, a allai fwydo i'r modelau sy'n rhagfynegi maint daeargrynfeydd sy'n digwydd mewn rhanbarthau gwahanol' dywedodd Dr Fagereng.

Eu damcaniaeth yw bod daeargrynfeydd araf yn digwydd pan fydd symudiadau pitw, parhaus mewn ffawt, a elwir yn 'ymgripio', yn cyflymu drwy barth y ffawt. Dangosodd eu harsylwadau yn y maes fod modd i ffawt gynnwys gwahanol fathau o greigiau gyda chryfder a thrwch gwahanol, fel basalt a gwenithfaen solet a gwaddodion gwannach uchel mewn clai. Eu hamheuaeth oedd bod creigiau cryfach yn dechrau torri wrth i'r ymgripio gyflymu oherwydd bod creigiau gwannach yn symud o'u cwmpas.

Gan ddefnyddio gwybodaeth o'u gwaith maes, maen nhw wedi datblygu model mathemategol i atgynhyrchu eu damcaniaeth a disgrifio rhywfaint o'r ffiseg sy'n sail iddi. Mae cyfuniad o greigiau, gyda gwahanol fathau o anffurfio, fel torri neu blygu, yn hanfodol. Mae angen cyfran o graig wan sy'n ymgripio yn ogystal â digon o bwysedd i achosi i rywfaint o graig rwygo.

'Un posibilrwydd gyda'r daeargrynfeydd araf hyn yw bod gennych chi barth ymgripio trwchus gyda chraig gryfach wedi'i gosod ynddo' dywed Dr Fagereng.

Mae Dr Fagareng yn meddwl y gallai canfyddiadau'r prosiect helpu i wella rhagfynegi daeargrynfeydd a tsunamis, ac y gellid defnyddio hyn i ddiogelu rhag rhwygiadau peryglus.

Rhannu’r stori hon