Ewch i’r prif gynnwys

Llawlyfr Cyfraith a Chrefydd newydd gydag ymagwedd ryngddisgyblaethol

16 Rhagfyr 2019

Mae cyfrol newydd ar y Gyfraith a Chrefydd, sy'n dod â syniadau o feysydd Hanes, Athroniaeth, Cymdeithaseg, Diwinyddiaeth ac Astudiaethau Cymharol at ei gilydd, wedi'i golygu gan ddau academydd o Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth.

Cyhoeddir y gyfrol Research Handbook on Interdisciplinary Approaches to Law and Religion gan Edward Elgar Publishing a'r golygyddion yw'r Athrawon yn y Gyfraith Russell Sandberg a Norman Doe.

Mae'r Athro Sandberg a'r Athro Doe wedi ymuno â’u cydweithiwr ym Mhrifysgol Caerdydd, Dr Bronach Kane, Uwch-ddarlithydd mewn Hanes yn yr Ysgol Hanes, Archeoleg a Chrefydd a Caroline Roberts, myfyriwr PhD yn y Gyfraith yng Nghaerdydd a Bryste, i olygu'r llawlyfr cyntaf o'i fath.

Fel y dadleuodd yr Athro Sandberg yn 2014 yn ei fonograff (Religion, Law and Society, a gyhoeddwyd gan Wasg Caergrawnt), er bod cynnydd sylweddol wedi bod mewn ysgolheictod y Gyfraith a Chrefydd dros y blynyddoedd diwethaf, gyda rhywfaint o'r gwaith hwn yn rhyngddisgyblaethol, mae'r rhan fwyaf o'r gwaith wedi canolbwyntio ar ddulliau cyfreithiol.  Bwriad y llawlyfr newydd yw cywiro hyn drwy gynnig canllaw i amrywiaeth o ymagweddau o nifer o ddisgyblaethau y gellid ei ddefnyddio i ddatblygu ysgolheictod a'n dealltwriaeth o'r ffordd mae'r Gyfraith a Chrefydd yn rhyngweithio.

Dywedodd yr Athro Sandberg, "Mae trafod gwerth gwaith rhyngddisgyblaethol wedi'i wreiddio mewn prifysgolion. Ond haws dweud na gwneud. Mae'r llawlyfr hwn yn bodloni angen dybryd yn y gymuned ysgolheigaidd. Bwriedir iddo fod yn llyfr bwrdd coffi i bori drwy'r penodau sy'n ddefnyddiol ac yn ddifyr i chi. Rydym ni'n hynod o ddiolchgar i'n cyfranwyr o bedwar ban byd am awduro penodau mor ysgogol a chyffrous."

Mae'r llawlyfr yn cynnwys pennod ragarweiniol gan yr Athro Sandberg â'r teitl ‘Snakepits & Sandpits’ sy'n trafod manteision a risgiau gwaith rhyngddisgyblaethol yn y Gyfraith a Chrefydd. Dywedodd, "Mae'n edrych ar sut mae'r Gyfraith a Chrefydd wedi datblygu fel maes astudio. Ond rwy'n credu mai dyma'r peth mwyaf personol i mi ei ysgrifennu erioed. Gan ddilyn arweiniad llenyddiaeth ar ddatblygiad astudiaethau cyfreithiol ffeministaidd, mae'r arddull yn hunangofiannol. Dyma fy nghofnod i o'r ffordd newidiol rwyf i'n gweld y maes, y camgymeriadau rwyf i wedi'u gwneud ar y ffordd a pham fod dull rhyngddisgyblaethol, er gwaethaf y peryglon, yn angenrheidiol."

Mae'r Athro Sandberg hefyd wedi cyfrannu pennod yn yr adran ar Ymagweddau Cymdeithasegol sy'n edrych ar waith Niklas Luhmann. Dywedodd, "mae cyfreithwyr a diwinyddion yn darllen Luhmann. Ond sut mae defnyddio ei ddamcaniaeth am systemau cymdeithasol i ddeall y Gyfraith a Chrefydd fel rhyngweithiad ac fel maes? Daw'r bennod hon â fy ngwaith ar y pwnc at ei gilydd i edrych ar atyniad Luhmann".

Y ddelwedd ar glawr y llyfr yw ffotograff gan yr Athro Sandberg o nant ar ben mynydd yng Nghymru. Mae'r ffotograff yn symbol o ddatblygiad y Gyfraith a Chrefydd fel maes, yn llifo yn ei flaen. Mae'r lleoliad Cymreig yn briodol o ystyried rôl allweddol Prifysgol Caerdydd a Chanolfan y Gyfraith a Chrefydd yno yn meithrin y Gyfraith a Chrefydd fel maes. Bwriad y llawlyfr newydd yw datblygu hyn ymhellach, gan alluogi'r Gyfraith a Chrefydd i ffynnu fel menter ryngddisgyblaethol.

Rhannu’r stori hon