Ewch i’r prif gynnwys

Bwrdd Cynghori Diwydiannol Graddau Meistr mewn Gwyddor Bensaernïol (ASM-IAB) wedi’i alw i gysylltu myfyrwyr â’r diwydiant

3 Rhagfyr 2019

ASM
Members of the ASM-IAB

Mae’r Bwrdd Cynghori Diwydiannol Graddau Meistr mewn Gwyddor Bensaernïol (ASM-IAB) wedi’i galw i hwyluso cysylltiad myfyrwyr â’r diwydiant a gwneud awgrymiadau am gyfeiriad detholiad o gyrsiau MSc.

Bydd y Bwrdd Ymgynghori newydd yn cynnig awgrymiadau a chyfeiriad ar gyfer yr MSc mewn Gwerthusiad Uwch o Berfformiad Adeiladau, MSc Dylunio Adeiladau’n Amgylcheddol ac MSc Mega-Adeiladau Cynaliadwy.

Cafodd yr ASM-IAB ei groesawu gan yr Athro Lupton, yr Athro Ian Knight ac arweinwyr y cyrsiau, a chafwyd trafodaeth eang a oedd yn cynnwys cysylltiadau newydd o fewn y proffesiwn a syniadau i’w hystyried ar gyfer datblygiad y cyrsiau yn y dyfodol yn ogystal â phwyntiau allweddol i fyfyrwyr eu defnyddio’n broffesiynol ar ôl graddio.

Gan ystyried ôl-troed amgylcheddol ac amser y rhai a gymerodd ran, cafodd y cyfarfod ei drefnu i hwyluso cyfranogiad rhithwir ac anghydamseredig.

Mae’r aelodau presennol yn cynnwys:

Dywedodd Dr Vicki Stevenson, aelod o ASM-IAB:

“Rydw i’n falch bod cynrychiolwyr o broffesiynau’r amgylchedd adeiledig yn barod i ddatblygu’r gyfres o gyrsiau Meistr mewn Gwyddor Bensaernïol yn Ysgol Pensaernïaeth Cymru ymhellach.  Mae aelodau ein bwrdd ymgynghori yn cynrychioli ystod o alwedigaethau perthnasol ac mae ganddynt brofiad eang yn fyd-eang.  Mae’n braf gweld bod rhai o’n cynfyfyrwyr yn aelodau o’r bwrdd hwn a’u bod nhw’n awyddus i rannu eu gwybodaeth a’u profiadau er budd myfyrwyr heddiw ac yfory.

Os oes gennych ddiddordeb mewn bod ar y panel Ymgynghori, cysylltwch ag un o’r arweinwyr cyrsiau canlynol:

MSc Gwerthusiad Uwch o Berfformiad Adeiladau - Dr Hiral Patel PatelH18@caerdydd.ac.uk

MSc Dylunio Adeiladau'n Amgylcheddol (Lleol) - Dr Vicki Stevenson stevensonv@caerdydd.ac.uk

MSc Environmental Design of Buildings (Pellter) - Sarah O’Dwyer odwyers@caerdydd.ac.uk / Amalia Banteli BanteliA@caerdydd.ac.uk

MSc Mega-Adeiladau Cynaliadwy - Dr Eshrar Latif latife@caerdydd.ac.uk

Rhannu’r stori hon