Ewch i’r prif gynnwys

Bydd 'Fair Saturday' yn edrych ar syniadau dylunio cynaliadwy ar gyfer Gerddi Grange

18 Tachwedd 2019

Fair Saturday
Local community will design a sustainable Grange Gardens

Cynhelir 'Fair Saturday' yn Hyb Grangetown ddydd Sadwrn 30 Tachwedd i roi cynlluniau ar waith ar gyfer Gerddi newydd Pafiliwn Grange.

Mudiad byd-eang a sefydlwyd yn Bilbao yw Fair Saturday. Mae’n dathlu sut mae pŵer y celfyddydau, diwylliant a threftadaeth yn gallu newid y byd a chreu cymdeithas fwy cyfiawn. Mae Fair Saturday yn ddiwrnod i ddangos beth ellir ei gyflawni a'i adeiladu drwy weithio gyda'n gilydd ac mae’n defnyddio pŵer hanfodol diwylliant ac empathi i greu a dathlu'r byd rydym eisiau byw ynddo.

I helpu hyrwyddo a dathlu Fair Saturday 2019, bydd Ysgol Pensaernïaeth Cymru, y Porth Cymunedol, Prosiect Pafiliwn Grange a Chaerdydd Creadigol yn ymuno â chymuned leol Grangetown am fore o ddylunio. Mae'r grŵp yn gobeithio ymchwilio i syniadau dylunio cynaliadwy ar gyfer pob math o fywyd dynol a heb fod yn ddynol yn y gerddi. Drwy'r sesiwn gyd-ddylunio hon sy'n defnyddio prototeip o Erddi Grange ar raddfa lawn, mae'r tîm hefyd yn gobeithio cael rhagor o wybodaeth am dirweddau synergaidd, economïau cylchol ac ecosystemau diwylliannol.

Mae'r digwyddiad yn rhad ac am ddim i bawb ac yn agored i oedolion a phlant, ac mae croeso i unrhyw un alw heibio unrhyw bryd rhwng 10am ac 1pm i gynllunio dyfodol tymor hir tirlun cymunedol Grangetown ar gyfer pob math o fywyd

Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth ar dudalen EventBrite

Rhannu’r stori hon