Ewch i’r prif gynnwys

Cloddio i achub sgerbydau a gladdwyd ar arfordir Cymru

15 November 2019

Coastal erosion and climate change expose human remains on southeast coast of Wales

The skeletal remains of at least six individuals from the distant past have been saved from coastal erosion in eight days of rescue excavation by a team of experts on the Vale of Glamorgan Heritage Coast.

Archaeologists from Glamorgan-Gwent Archaeological Trust (GGAT) and Cardiff University teamed up with experts from Natural Resources Wales to excavate the remains eroding from the cliff edge at Cwm Nash in a race against time and the elements.

Initial findings suggest the group may have been the victims of shipwreck.

Erydiad arfordirol a newid yn yr hinsawdd yn dod â gweddillion dynol i’r amlwg ar arfordir de-ddwyrain Cymru

Mae gweddillion sgerbydau o leiaf chwe unigolyn o’r gorffennol pell wedi cael eu hachub rhag erydiad arfordirol mewn wyth diwrnod o waith cloddio gan dîm o arbenigwyr ar Arfordir Treftadaeth Bro Morgannwg.

Bu archaeolegwyr o Ymddiriedolaeth Archaeolegol Morgannwg-Gwent (GGAT) a Phrifysgol Caerdydd yn gweithio gydag arbenigwyr Cyfoeth Naturiol Cymru i achub y gweddillion oedd yn cael eu herydu o ymyl clogwyn Cwm Nash, mewn ras yn erbyn amser a’r elfennau.

Mae’r canfyddiadau cychwynnol yn awgrymu i’r grŵp fod mewn llongddrylliad o bosibl.

Dywedodd Paul Huckfield, arweinydd y gwaith cloddio i GGAT: “Dyma’r gwaith cloddio mwyaf a wnaed i arbed elfennau yn yr ardal hon, a bu’n rhaid cydweithio â thîm o arbenigwyr i achub y gweddillion hyn ac adrodd hanes yr unigolion dan sylw.”

Ychwanegodd Jacqui Mulville, Athro Bioarchaeoleg a fu’n arwain tîm Prifysgol Caerdydd:

“Mae llawer o’r sgerbydau wedi colli esgyrn i’r môr, ond mae dadansoddiad cynnar o safleoedd claddu’r unigolion wedi datgelu llawer. Mae un unigolyn dipyn yn iau, wedi’i gladdu bellter oddi wrth y lleill, sydd ochr yn ochr neu hyd yn oed gyda’i gilydd mewn un bedd. Ein syniad diweddaraf yw mai Tuduriaid neu Stiwartiaid yw’r rhain a gafodd eu dal mewn llongddrylliad o bosib. Ein nod yw adrodd mwy o’u hanes a dychwelyd eu hunaniaeth iddyn nhw trwy barhau i ddadansoddi wedi’r cloddio.”

Pan archwiliwyd dau fedd arall, nid oedd gweddillion ynddynt, gan fod erydiad arfordirol eisoes wedi’u cipio. Mae dyddio radio-carbon blaenorol ar weddillion dynol a achubwyd mewn gwaith cloddio tebyg ar hyd arfordir de-ddwyrain Cymru wedi gosod y rhai y cafwyd hyd iddynt yn niwedd yr 16eg ganrif neu ddechrau’r 17eg, sef dechrau cyfnod modern y Tuduriaid a’r Stiwartiaid.  Rhoddwyd y drwydded gladdu gynharaf ar gyfer plwyf Monknash, lle cafwyd hyd i’r darganfyddiadau, yn 1609.

Digwyddodd y gwaith cloddio manwl dros gyfnod o dri diwrnod ym mis Gorffennaf a phum diwrnod ym mis Medi, ac roedd yr amodau’n newidiol ar hyd ymyl y clogwyn oedd yn cael ei erydu.  Sicrhaodd yr arbenigwyr lleol ar raffau uchel The Adventure Alternative fod yr antur yn ddiogel.  Bu daearegwyr ac ecolegwyr Cyfoeth Naturiol Cymru yn cynghori ar gynnydd y prosiect, oedd ar Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig.

Yr Athro Mulville oedd yn arwain y tîm o naw archaeolegydd o Gaerdydd, sef Adelle Bricking, Ciara Butler, Katie Faillace, Eirini Konstantinidi, Michael Legge, Hanna-Marie Pageau a Tiffany Treadway (sydd i gyd yn fyfyrwyr PhD) a’r myfyriwr MSc mewn Gwyddor Archaeolegol, Lois Turnbull, ochr yn ochr â Dr Richard Hubbard, archaeolegydd a thirfeddiannwr lleol.

Bydd bioarchaeolegwyr yn y Brifysgol yn cynnal dadansoddiad manwl o’r gweddillion dynol i mewn i 2020.

Roedd y canlyniadau rhagarweiniol yn canolbwyntio ar yr unigolyn cyntaf y daeth ei weddillion i’r amlwg, fel y datgelwyd yn wythfed cyfres rhaglen BBC Four Digging for Britain ar 20 Tachwedd.

Rhannu’r stori hon