Ewch i’r prif gynnwys

Gwobrau GSK am ragoriaeth mewn cemeg organig

14 Tachwedd 2019

GSK Prizes for excellence

Mae myfyrwyr israddedig o’r Ysgol Cemeg wedi cael nifer o wobrau gan GlaxoSmithKline (GSK) mewn cemeg organig.

Mae myfyrwyr israddedig o’r Ysgol Cemeg wedi cael nifer o wobrau gan GlaxoSmithKline (GSK) mewn cemeg organig.

Ym mis Tachwedd, ymwelodd Dr Afjal Miah o gangen Stevenage GSK â’r Ysgol Cemeg i gyflwyno tystysgrifau a gwobrau ariannol a noddir gan GSK am berfformiadau gan fyfyrwyr ym maes Cemeg Organig. Enillodd Ethan Merrington-Pink wobr am y perfformiad gorau ym mlwyddyn gyntaf Cemeg Organig, ac enillodd Luke Ward wobr am y perfformiad gorau yn ail flwyddyn cemeg organig (ar gyfer blwyddyn academaidd 2018/19).

Enillodd Bethan Winterson wobr GSK am y perfformiad gorau mewn prosiect MChem am ei gwaith ar adweithyddion ïodin hyperfalent wedi’i generadu’n electrogemegol, o dan arweiniad yr Athro Thomas Wirth. Ar ôl cwblhau ei MChem yn 2018/19, mae Bethan wedi aros yn yr Ysgol i astudio PhD.

Mae GSK yn gwmni byd-eang sy’n ymchwilio i ystod eang o feddyginiaethau rhagnodol, brechiadau, a chynhyrchion traul gofal iechyd, a’u datblygu a’u cynhyrchu er mwyn helpu pobl i wneud mwy, teimlo’n well, a byw’n hwy. Mae gan y cwmni gysylltiadau agos â’r Ysgol Cemeg ym Mhrifysgol Caerdydd, gan gynnig cyfleoedd lleoliadau gwaith yn ogystal ag interniaethau.

.

Rhannu’r stori hon