Ewch i’r prif gynnwys

Adnodd adrodd newyddion i ddisgyblion

8 Tachwedd 2019

Prosiect ar y cyd rhwng y Brifysgol ac Undeb Addysg Cenedlaethol Cymru yn helpu i frwydro yn erbyn ‘newyddion ffug’

Mae adnodd ar-lein newydd rhad ac am ddim yn cael ei lansio sy'n rhoi'r sgiliau i ddisgyblion ysgolion cynradd ddeall hanfodion adrodd newyddion.

Mae 'Making News Toolkit for Schools' wedi’i greu trwy fenter ar y cyd rhwng Undeb Addysg Cenedlaethol Cymru (Neu Cymru) a Chanolfan Newyddiaduraeth Gymunedol Prifysgol Caerdydd (C4CJ).

Pecyn cymorth i 'hyfforddi'r hyfforddwr' yw hwn sy'n cynnwys 10 sesiwn ymarferol i helpu i ddysgu'r genhedlaeth nesaf i ddadansoddi newyddion a gwybodaeth.

Bydd yn helpu i fynd i’r afael âr hyn a elwir yn ‘newyddion ffug’ gan y bydd plant yn tyfu i fod yn oedolion sydd â’r sgiliau i gwestiynu a gwirio'r wybodaeth maent yn ei chael.

Yn hanfodol, mae hefyd yn dysgu pob plentyn yng Nghymru bod eu llais yn bwysig ac yn rhoi'r sgiliau iddynt ddweud eu straeon eu hunain.

Mae'r pecyn cymorth yn rhan o brosiect Cronfa Ddysgu Undeb Cymru (WULF) NEU Cymru a ariennir gan Lywodraeth Cymru.

“Rwy’n falch iawn ein bod yn gallu defnyddio Cynhadledd Flynyddol NEU Cymru i lansio’r adnodd ar-lein 'Making News Toolkit for Schools,'” meddai David Evans, Ysgrifennydd Cymru dros NEU Cymru.

“Gyda’r cwricwlwm newydd ar y gorwel, dyma'r amser delfrydol i rannu’r pecyn hwn gyda’n haelodau a hyrwyddo’r hyn sy’n bosibl drwy gynllun WULF Llywodraeth Cymru.”

Mae'r prosiect yn rhan o strategaeth allweddol ehangach Prifysgol Caerdydd i weithio gyda phartneriaid addysg, a holl ysgolion Cymru er mwyn cefnogi athrawon i weithio tuag at well cyrhaeddiad.

Dywedodd Emma Meese, Cyfarwyddwr Newyddiaduraeth Gymunedol ym Mhrifysgol Caerdydd: “Mae'r prosiect yma'n agos iawn at fy nghalon. Fe wnaethon ni gynnal cynllun peilot dair blynedd yn ôl mewn dwy ysgol gynradd ym Merthyr ac rydw i wrth fy modd ein bod ni, trwy weithio gyda chynllun Dysgu Undebau'r NEU, yn gallu cyflwyno’r adnodd hanfodol hwn i bob ysgol ledled Cymru.”

Mae gan gyd-awdur y pecyn, Anna Wynn Roberts, gefndir mewn newyddiaduraeth fideo a chreu rhaglenni dogfen ar gyfer Channel 4 a'r BBC, ond mae hi hefyd wedi’i hyfforddi ac wedi gweithio fel athrawes.

Dywedodd Cydlynydd WULF NEU Cymru, Beth Roberts, a gychwynnodd ddatblygiad y pecyn ysgrifenedig: “Mae hwn yn fenter gydweithredol gyffrous iawn rhwng C4CJ a phrosiect Dysgu Undebau NEU Cymru ac rydym hefyd yn ddiolchgar i’r athrawon a wnaeth beilota’r canllaw yn eu hysgolion.”

Mae’n adnodd ar-lein am ddim sydd ar gael yn Saesneg ar hyn o bryd gyda’r fersiwn Gymraeg ar gael erbyn y Nadolig 2019.

Rhannu’r stori hon