Ewch i’r prif gynnwys

Brexit, Datganoli a’r Etholiad Cyffredinol: Philip Rycroft i draddodi Darlith Flynyddol 2019

8 Tachwedd 2019

Bydd cyn prif was sifil ar Brexit y DG yn traddodi Darlith Flynyddol Canolfan Llywodraethiant Cymru 2019.

Bydd Philip Rycroft, cyn Ysgrifennydd Parhaol yn yr Adran dros Adael yr UE a phennaeth Grŵp Llywodraethiant y DG yn Swyddfa’r Cabinet, yn siarad am effaith Brexit ar berthnasau rhynglywodraethol o fewn y DG a’r hyn mae Brexit yn ei olygu ar gyfer dyfodol datganoli. Bydd yn gofyn a yw’r drefn gyfansoddiadol bresennol yn gallu goroesi’r pwysau mae'n ei wynebu erbyn hyn.

Dywedodd Cyfarwyddwr Canolfan Llywodraethiant Cymru, Prifysgol Caerdydd, Yr Athro Richard Wyn Jones:

“Mae’n bleser gennym fod wedi sicrhau person oedd nid yn unig, tan ychydig fisoedd yn ôl, yn goruchwylio’r trefniadau ar gyfer Brexit, ond oedd hefyd yn enwog drwy Whitehall a thu hwnt fel yr uwch was sifil oedd yn ‘deall’ datganoli a chyfansoddiad tiriogaethol y DG, fel ein Darlithydd Blynyddol eleni. Dyma fydd y tro cyntaf i Philip Rycroft siarad mewn manylder ynglŷn â’r heriau penodol y bydd Brexit yn ei roi i ni yng Nghymru ac rydym yn edrych ymlaen yn fawr iawn i glywed yr hyn sydd ganddo i’w ddweud.”

“Bydd y ffaith ei fod yn siarad tra bod ymgyrch Etholiad Cyffredinol y DG yn mynd rhagddo a lle bydd dyfodol Undeb Prydain yn sicr o fod yn nodwedd amlwg ynddi, yn pwysleisio pa mor amserol yw’r ddarlith hon.”

Bydd Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol, Elin Jones AC, yn noddi’r ddarlith a gaiff ei gynnal ar Ddydd Llun Rhagfyr 9 am 18:00, yn Adeilad y Pierhead ym Mae Caerdydd. Gellir cofrestru yma.

Rhannu’r stori hon