Ewch i’r prif gynnwys

Outstanding students awarded scholarships

31 Hydref 2019

Myfyrwyr rhagorol o’r Ysgol Cemeg yn ennill Ysgoloriaethau Prifysgol Caerdydd uchel eu bri am ragoriaeth academaidd.

Fe wnaeth pob myfyriwr dderbyn AAA neu uwch yn eu harholiadau Safon Uwch (neu gymhwyster cyfwerth) a chael eu dewis i dderbyn gwobr Ysgoloriaeth y Brifysgol gwerth £3000 i gydnabod eu cyflawniadau academaidd ardderchog.

Cameron Brown, Archie Jones, Rhys Spavins-Hicks, James Cave, Kate Stephens a Natalie Mitchell yw enillwyr ein hysgoloriaethau.

Mae Ysgoloriaethau Prifysgol Caerdydd wedi’u dylunio i gydnabod cyflawniadau amrywiol y myfyrwyr a’u helpu drwy eu hastudiaethau yng Nghaerdydd. Mae’r wobr gystadleuol iawn yn adlewyrchu safon ardderchog y ceisiadau a gafwyd ac yn dathlu talentau amrywiol iawn y myfyrwyr ar draws pob un o dri Choleg Academaidd y Brifysgol.

Dywedodd Pennaeth yr Ysgol, yr Athro Damien Murphy: “Llongyfarchiadau i’r holl fyfyrwyr am eu cyflawniad.

“Mae ymrwymiad ynghyd â gallu’n cynhyrchu canlyniadau ardderchog, ac rydym wrth ein boddau y gall y myfyrwyr hyn ffynnu yma ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae ennill ysgoloriaeth yn gwella rhagolygon swyddi ein myfyrwyr ymhellach, sydd eisoes yn dda iawn, yn ogystal â chynnig cefnogaeth ymarferol ddefnyddiol.”

“Rwy’n ffyddiog y bydd enillwyr diweddaraf yr ysgoloriaethau hyn yn mynd ymlaen i gyflawni pethau penigamp.

Rydym yn croesawu'r holl fyfyrwyr i'r Ysgol Cemeg ac yn gobeithio y byddan nhw'n mwynhau eu profiadau wrth astudio ar gyfer eu gradd cemeg yma yng Nghaerdydd. Os oes gennych ddiddordeb yn yr ysgoloriaethau sydd ar gael yma, ewch i'n tudalennau gwe cyllid ar gyfer myfyrwyr israddedig.

Rhannu’r stori hon