Ewch i’r prif gynnwys

University Professor appointed Editor-in-Chief of new American Physiological Society journal

21 Hydref 2019

Professor Ole Petersen

Mae academydd blaenllaw o Brifysgol Caerdydd, yr Athro Ole Petersen, wedi’i benodi’n Brif Olygydd Sefydlol Function, y cyhoeddiad diweddaraf gan y Gymdeithas Ffisiolegol Americanaidd.

Amserlennir i Function lansio yn 2020, a bydd yn cynnig canolbwynt mynediad-agored, amlddisgyblaethol ar gyfer erthyglau proffil uchel sy’n cwmpasu camau mawr ymlaen ym maes gwyddoniaeth sylfaenol, drosiannol a chlinigol sy’n hyrwyddo dealltwriaeth ffisiolegol neu bathoffisiolegol o swyddogaeth fiolegol.

Is-Lywydd Academia Europaea a Chyfarwyddwr Canolfan Wybodaeth Caerdydd Academia Europaea yw’r Athro Ole Petersen CBE FRS o Ysgol y Biowyddorau. Ar hyd ei yrfa, mae wedi ennill nifer o wobrau i gydnabod ei ymchwil flaengar i rôl signalu calsiwm mewn clefydau pancreatig.

Wrth siarad am ei benodiad, dywedodd yr Athro Petersen:

“Mae’r cyfle i guradu’r wyddoniaeth fwyaf blaengar ym maes eang a phwysig swyddogaeth fiolegol yn wirioneddol gyffrous.”

Fy ngweledigaeth ar gyfer Function yw cyhoeddi canfyddiadau astudiaethau ym maes eang swyddogaeth fiolegol ond gyda sail ffisiolegol. Rhaid i’r astudiaethau arddangos newydd-deb go iawn, cynrychioli cam ymlaen o ran gwybodaeth a chael eu gweithredu’n drylwyr gan ystyried sut gellir eu hailgynhyrchu. Bydd persbectif ffisiolegol neu bathoffisiolegol yn hanfodol bob tro. Byddwn yn edrych am astudiaethau wedi’u cyflwyno’n glir, sy’n debygol iawn o gael effaith go iawn.

Yr Athro Ole Petersen Director of the Cardiff University - Academia Europaea Knowledge Hub

Meddai Cyfarwyddwr Gweithredol y Gymdeithas Ffisiolegol Americanaidd, Scott Steen, CAE, FASAE:

“Rwyf wrth fy modd gyda phenodiad Ole Petersen. Mae’n wyddonydd o fri gyda phrofiad eang mewn cyhoeddi gwyddonol. Mae ei gysylltiadau dwfn ag Ewrop a’r gymuned ymchwil fyd-eang yn arbennig o bwysig gan fod y Gymdeithas am ehangu ei hôl-troed rhyngwladol a chyflymu ein cefnogaeth ar gyfer gwyddoniaeth agored.”

Ychwanegodd Curt Sigmund, PhD, cadeirydd Tasglu Cyhoeddiadau Cymdeithas Ffisiolegol America:

“O’r cychwyn cyntaf, mae arweinwyr Cymdeithas Ffisiolegol America wedi deall pa mor hollbwysig yw dewis gwyddonydd gweithredol â chymwysterau gwyddonol rhagorol ar gyfer rôl y prif olygydd. Mae Ole yn ymchwilydd uchel ei barch sydd â chysylltiad da â'r weledigaeth, yr hyder a'r cymwysterau gwyddonol i sicrhau llwyddiant y fenter newydd hon."

Rhannu’r stori hon