Ewch i’r prif gynnwys

Dr Catherine Purcell yn creu ap i addysgu plant am ddiogelwch ar y ffyrdd

8 Hydref 2019

Virtual Road World app

Mae Dr Catherine Purcell, Uwch Ddarlithydd Therapi Galwedigaethol yn Ysgol y Gwyddorau Gofal Iechyd, wedi creu ap i wella arferion addysgol diogelwch ar y ffyrdd.

Yn ôl yr Ymddiriedolaeth Diogelwch ar y Ffyrdd, damweiniau ar y ffyrdd y gellir eu hosgoi yw'r ail brif achos o farwolaeth neu anabledd ar gyfer plant rhwng 5 ac 14 mlwydd oed.

Mae'r ap 'Virtual Road World', sydd wedi'i dargedu'n benodol at blant rhwng saith a naw mlwyddyn oed, yn addysgu sut i groesi ffyrdd yn ddiogel.

Mae'n rhaid i ddefnyddwyr yr ap gwblhau cyfres o anturiaethau sy'n cynnwys croesi ffyrdd wrth iddynt ddod o hyd i'w ffordd o amgylch dinas rithwir.

Gweithiodd Purcell ar y cyd â Phrifysgol De Cymru i brofi'r ap. Ymgynghorwyd â phlant ysgol o Gasnewydd hefyd ynghylch gwedd a defnyddioldeb y gêm.

Wrth siarad am yr ap newydd, dywedodd Purcell: "Drwy ein hymchwil, rydym yn gwybod bod addysgu plant trwy ddefnyddio llyfrau lluniau ac ymarferion wrth ymyl y ffordd yn gallu defnyddio llawer o amser ac adnoddau.

"Po fwyaf o ddiddordeb sydd gan y plant yn y gêm, y mwyaf o gyfle sydd ganddynt i ddeall y risgiau a gwneud penderfyniadau mwy diogel ynglŷn â ble a phryd i groesi'r ffordd...

"Mae hwn yn ffordd arall i ysgolion ddysgu plant am groesi ffyrdd mewn ffordd hwyliog a rhyngweithiol."

Mae'r ap yn cael ei ariannu gan grant gan yr Ymddiriedolaeth Diogelwch ar y Ffyrdd.

Rhannu’r stori hon