Ewch i’r prif gynnwys

Healthcare subjects achieve number 1 in Wales and Top 10 in the UK

15 Hydref 2019

Mae Ysgol y Gwyddorau Gofal Iechyd, Prifysgol Caerdyddar frig y rhestr yng Nghymru ac ymhlith y 10 uchaf yn y DU ar gyfer Ffisiotherapi, Nyrsio, Radiograffeg a Phwnc sy'n gysylltiedig â Meddygaeth yn y Times Good University Guide 2020.

Mae hyn yn gosod pynciau iechyd y Brifysgol fel rhai o’r gorau yn y DU. Ymhlith y rhaglenni sydd â sgôr uchel mae:

  • Ffisiotherapi yn 1af yng Nghymru a 3ydd yn y DU.
  • Mae nyrsio yn 1af yng Nghymru ac yn 8fed yn y DU. (Mae hyn yn cynnwys, Bydwreigiaeth)
  • Pynciau sy'n gysylltiedig â Meddygaeth yn 1af yng Nghymru a 9fed yn y DU (Mae hyn yn cynnwys, Therapi Galwedigaethol, Ymarfer Gofal Llawdriniaethol).
  • Mae radiotherapi yn 1af yng Nghymru ac yn 4ydd yn y DU.  (Mae hyn yn cynnwys, a Radiotherapi ac Oncoleg)

Mae’r Times Good University Guide yn uchel ei barch, ac mae'r sgôr yn seiliedig ar amrywiaeth o fesurau sy’n cynnwys; safonau mynediad, cymarebau myfyrwyr-staff, gwasanaethau a chyfleusterau, cyfraddau cwblhau, graddau dosbarth cyntaf a 2:1, rhagolygon i raddedigion a Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2014.

Dywedodd Pennaeth yr Ysgol, Ysgol y Gwyddorau Gofal Iechyd, Dr David Whittaker, ‘Rwy’n falch iawn gyda’n perfformiad gwych yn y Times Good University Guide 2020. Mae'n ffordd wych o gydnabod gwaith cadarnhaol staff a myfyrwyr dros y flwyddyn ddiwethaf. Mae rhai meysydd wedi gweld gwelliannau anhygoel o gymharu â'r safleoedd yn 2019; mae bod ar y brig yng Nghymru ar draws ein ddarpariaeth gyfan yn fy ngwneud yn falch iawn’

I gael rhagor o wybodaeth ewch i wefan y Times Good University Guide 2020.

Rhannu’r stori hon