Ewch i’r prif gynnwys

Mae Llysgennad o Senegal yn dychwelyd i Gaerdydd i ymweld â'r Ysgol Ieithoedd Modern

15 Hydref 2019

Mis Medi hwn, croesawodd yr Ysgol Ieithoedd Modern yr Athro Cheikh Ahmadou Dieng, Llysgennad Gweriniaeth Senegal i Gaerdydd.

Pwrpas ymweliad yr Athro Dieng oedd trafod llwybrau cydweithio posibl rhwng Prifysgol Caerdydd a nifer o brifysgolion yn Senegal. Fodd bynnag, nid hwn oedd y tro cyntaf i'r Athro Dieng ymweld â'r ddinas.  Dros ddeugain mlynedd yn ôl, roedd oedd yn byw yng Nghaerdydd ac yn gynorthwy-ydd iaith mewn ysgol leol, Ysgol Uwchradd Fitzalan. Ar ôl cyfarfod siawns rhwng Athro Gordon Cumming o’r Ysgol Ieithoedd Modern, El Hadji Diop, Prif Ysgrifennydd Llysgenhadaeth Senegalese, mewn digwyddiad yn gynharach yn y flwyddyn, roedd yr Athro Dieng wedi mynegi diddordeb brwd i ddychwelyd i'r ddinas.

Roedd yr Ysgol yn fwy na pharod i groesawu'r Llysgennad yn enwedig ar adeg pan mae'n treialu prosiect sy'n cynnwys cydweithredu â phrifysgolion Senegal. Ers mis Chwefror mae'r Ysgol wedi bod yn rhan o fenter lwyddiannus Bili sy'n cysylltu myfyrwyr y DU â myfyrwyr Senegal ar gyfer cyfnewid ieithyddol a diwylliannol trwy'r cyfryngau digidol.  Mae’r cynllun wedi cael ei ysgogi gan yr Ysgol Ieithoedd Modern ac mae’n rhan o raglen ‘English Connects’ y Cyngor Prydeinig, sydd â’r nod o gysylltu’r DU ag ieuenctid Affrica trwy gyfrwng y Saesneg.

Yn ystod ymweliad yr Athro Dieng aeth i weld cyflwyniad ar y prosiect gan yr arweinwyr Marie Gastinel-Jones a Cathy Molinaro a thrafodwyd datblygu’r cysylltiadau a ffurfiwyd eisoes i wella symudedd addysgu ac ymchwil.

Dywedodd y Cyfarwyddwr Rhyngwladol, Nick Parsons, “Roedd yn bleser cwrdd â’r Llysgennad, a chafwyd cyfarfod cyfeillgar a buddiol fydd yn galluogi’r Ysgol Ieithoedd Modern i ddatblygu’r cysylltiadau a wnaed â phrifysgolion Senegal drwy brosiect hynod lwyddiannus Bili.”

Cewch ragor o wybodaeth am brosiect Bili ar dudalennau newyddion yr Ysgol.

O'r chwith i'r dde: El Hadji Cheikh Diop, Prif Ysgrifennydd y Llysgenhadaeth, Yr Athro Gordon Cumming, yr Athro Ambreena Manji, yr Athro Cheikh Ahmadou Dieng, Llysgennad Gweriniaeth Senegal, Dr Liz Wren-Owen, Marie Gastinel Jones, Dr Nick Parsons, Cathy Molinaro.

Rhannu’r stori hon