Ewch i’r prif gynnwys

Cymeradwyo prosiect seilwaith y DU

26 Tachwedd 2015

Construction site

Bydd prosiect newydd gwerth miliynau o bunnoedd, i wneud yn siŵr bod seilwaith pwysig yn y DU yn rhedeg yn ddidrafferth, yn dechrau gyda 14 o brifysgolion ledled y DU

Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi y bydd £138m, ar y cyd ag arian cyfatebol o ffynonellau eraill, yn cael ei roi ar gyfer Prosiect Cydweithredol y DU ar gyfer Ymchwil Seilwaith a Dinasoedd (UKCRIC: UK Collaboratorium for Research in Infrastructure and Cities).

Nod UKRIC, sy'n cynnwys Prifysgol Caerdydd, yw darparu sail wybodaeth sy'n sicrhau gweithrediad hirdymor systemau trafnidiaeth, systemau ynni, cyflenwadau dŵr glân, prosesau rheoli gwastraff, amddiffynfeydd llifogydd a datblygiadau seilwaith yn y DU. 

Y tu hwnt i ddiogelwch cenedlaethol a meddygaeth, dyma fydd un o'r prosiectau ymchwil cydweithredol mwyaf yn y DU, a bydd yn cael ei ehangu i gynnwys mwy o brifysgolion, partneriaid cenedlaethol a phartneriaid rhyngwladol dros y blynyddoedd nesaf.

Yn ôl yr Athro Hywel Thomas, Dirprwy Is-Ganghellor Ymchwil, Arloesedd ac Ymgysylltu Prifysgol Caerdydd: "Mae'r math hwn o bartneriaeth hirdymor yn hanfodol er mwyn darparu'r seilwaith sy'n angenrheidiol i ganiatáu i'n gwlad ffynnu.

"Mae Prifysgol Caerdydd eisoes o ddifrif ynglŷn â'i rôl fel sbardun ar gyfer ffyniant economaidd a chymdeithasol. Mae gennym ddiwylliant arloesedd sy'n ffynnu, ac rydym yn rhagori mewn cysylltu ein hacademyddion â diwylliant, busnes a llywodraeth.

"Wrth galon y dull gweithredu hwn mae ein Campws Arloesedd newydd gwerth £300m, a fydd yn troi cwestiynau ymchwil yn atebion 'go iawn' drwy fanteisio i'r eithaf ar waith ymchwil yn y Brifysgol."

Nod UKCRIC yw creu dull cydlynol o fynd i'r afael â heriau fel tagfeydd traffig, sy'n costio tua £5.5bn bob blwyddyn, a thargedau o ran y newid yn yr hinsawdd.

  

Bydd Cynhadledd Cydlynu UKCRIC, a gaiff ei chynnal yn Adran Polisi Cyhoeddus a Pheirianneg Technoleg Gwyddoniaeth UCL, yn dwyn ynghyd ac yn cydlynu gwaith ymchwil, ac yn cynnwys ymarferwyr fel cyd-gynhyrchwyr. 

Bydd hyn yn cefnogi gweithredwyr seilwaith, cynllunwyr, arianwyr, rheoleiddwyr, dinasoedd a llywodraeth wrth iddynt wneud penderfyniadau ar gapasiti seilwaith, perfformiad a buddsoddiad.

Rhannu’r stori hon