Ewch i’r prif gynnwys

Creu cymunedau mwy diogel

25 Tachwedd 2015

Grange Gardens

Bydd y gwasanaethau brys i'w gweld ar strydoedd un o faestrefi Caerdydd ar gyfer wythnos llawn gweithgareddau sy'n ceisio gwneud pobl yn fwy diogel yn eu cymuned

Mae'r Wythnos Ddiogelwch, a gynhelir rhwng 30 Tachwedd a 4 Rhagfyr yn Grangetown, yn cynnwys themâu fel diogelwch ar y ffyrdd, iechyd, diogelwch tân a Gwarchod Cymdogaethau. Mae'r rhain yn ymateb yn uniongyrchol i syniadau gan gynrychiolwyr Grangetown.

Gweithredu Cymunedol Grangetown a Phrifysgol Caerdydd sydd wedi cydweithio i drefnu'r digwyddiad hwn.

Mae'n rhan o brosiect o'r enw Porth Cymunedol gan y Brifysgol sy'n adeiladu perthynas hirdymor gyda thrigolion yn Grangetown i wneud yr ardal yn lle gwell byth i fyw ynddi.

Mae Heddlu De Cymru, Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru, Gwasanaeth Ieuenctid Caerdydd, Cyngor Caerdydd, Hyfforddiant Beicio Cymru, Halfords, St John Cymru-Wales, Age Cymru, Sefydliad Clwb Pêl-droed Dinas Caerdydd, cynghorwyr lleol a Gwirfoddoli Myfyrwyr Caerdydd ymhlith y rhai sy'n cymryd rhan.

Meddai Lynne Thomas, rheolwr prosiect Porth Cymunedol: "Mae Prifysgol Caerdydd yn cymryd ei rôl gymunedol o ddifrif ac rydym yn falch o fod yn cydweithio'n agos â phobl o Grangetown.

"Mae trigolion wedi bod yn sôn am bwysigrwydd diogelwch cymunedol yn aml, felly rwyf yn falch iawn bod cynifer o bobl a sefydliadau wedi cydweithio i ddarparu cyfres mor amrywiol a diddorol o weithgareddau.

"Rwy'n siŵr y bydd hi'n wythnos hynod lwyddiannus fydd yn creu amgylchedd hyd yn oed yn fwy diogel i drigolion Grangetown."

Dywedodd Ali Abdi, rheolwr partneriaethau Porth Cymunedol: "Rwyf wrth fy modd fod gennym Wythnos Ddiogelwch mor brysur yn Grangetown. Cynhelir nifer o weithgareddau ym Mhafiliwn Bowlio Gerddi'r Grange hefyd - dyma le cymunedol lle cynhelir rhagor o ddigwyddiadau'n rheolaidd yn ystod y flwyddyn i ddod."

Dywedodd Ashley Lister, Ysgrifennydd Gweithredu Cymunedol Grangetown, bod hwn yn gyfle da i ddangos “yr holl waith gwych sy'n cael ei wneud yn Grangetown i wella ansawdd bywydau'r trigolion, yn enwedig mewn cysylltiad â phryderon am ddiogelwch”.

Ychwanegodd: "Mae Gweithredu Cymunedol Grangetown yn ymrwymo i gydweithio â thrigolion ar brosiectau fydd yn cael effaith yn Grangetown yn eu barn nhw. Mae'r Wythnos Ddiogelwch yn brosiect sy'n ceisio diwallu angen a amlygwyd drwy gydweithio â'n partneriaid yn y Porth Cymunedol a'r gwasanaethau brys.”

Bydd swyddogion tân a'r heddlu yn mynd o ddrws i ddrws i roi cyngor am ddiogelwch a cheisio gofalu bod pobl mor ddiogel â phosibl yn eu cymuned.

Bydd y gwasanaeth tân hefyd yn ymweld ag ysgolion yn ystod yr wythnos, a bydd heddweision yn cynnal digwyddiad ymgysylltu cymunedol nos Lun.

Bydd y gweithgareddau eraill yn cynnwys hyfforddiant cymorth cyntaf gyda St John Cymru-Wales, cymorthfeydd stryd gyda chynghorwyr, sesiynau gwybodaeth am Warchod Cymdogaethau, sesiynau cynnal a chadw beics a gwersi hyfedredd, sgiliau pêl-droed gyda Sefydliad Clwb Pêl-droed Dinas Caerdydd, cystadleuaeth poster i ysgolion a bws ieuenctid yn ymweld â Stryd Sain Ffagan.

Dywedodd Steve Richards, Rheolwr Gorsaf Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru, y bydd staff y gwasanaeth tân yno drwy'r wythnos yn trin a thrafod materion fel diogelwch ar y ffyrdd, patrolau troseddau tân, ymwybyddiaeth o ddiogelwch dŵr a diogelwch tân yn y cartref.

Dywedodd yr Arolygydd Tony Williams o Heddlu De Cymru y byddai'r heddlu yn dangos enghreifftiau o waith sy'n cael ei wneud yn yr ardal i greu amgylchedd diogel.

Mae'r Porth Cymunedol yn un o bum prosiect ymgysylltu blaenllaw'r Brifysgol, a elwir hefyd yn rhaglen Trawsnewid Cymunedau'r Brifysgol.

Mae'r Brifysgol yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru a chymunedau yng Nghaerdydd, Cymru a thu hwnt ym meysydd iechyd, addysg a lles ymhlith eraill.

Mae hyn yn cynnwys cefnogi Dinas-Ranbarth Caerdydd, cysylltu cymunedau drwy wefannau hyperleol, creu modelau ymgysylltu cymunedol a helpu i leihau tlodi yn Affrica is-Sahara.

Rhannu’r stori hon