Ewch i’r prif gynnwys

Lansiad y Cwrs Agored Ar-lein Gyntaf yn Gymraeg

22 Mai 2015

Mae'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol wedi lansio cwrs ar-lein Cymraeg - y cyntaf o'i fath - sydd werth 10 credyd Prifysgol.

Fe gafodd y cwrs ei ddatblygu wedi ymateb gan weithwyr cymdeithasol oedd wedi mynegi angen am ymarfer ieithyddol penodol.

Mae cynlluniau gan ddarlithwyr ym mhrifysgolion Caerdydd, Bangor, Abertawe a'r Brifysgol Agored i ddefnyddio'r adnodd o Hydref 2015 ymlaen fel rhan o'r cwrs gradd Gwaith Cymdeithasol.

Mae'r CAEA yn gwrs ar-lein gyda mynediad agored drwy lwyfan e-ddysgu'r Coleg - Y Porth - ac ar lwyfan byd-eang, 'Blackboard Open Education'.

Adeiladu cymuned i ddysgwyr

Un o fanteision penodol dysgu modiwl ar y CAEA yw targedu myfyrwyr llai hyderus ei gafael ar y Gymraeg. Gan fod hwn yn ffurf llai ffurfiol o ddysgu, nid oes angen prawf o allu ieithyddol cyn cychwyn y cwrs.

Yn ogystal â deunyddiau cwrs traddodiadol megis fideos, darlleniadau a chyflwyniadau, mae'r CAEA yn darparu fforymau rhyngweithiol sy'n helpu adeiladu cymuned ar gyfer dysgwyr.

Cynyddu cyfleoedd yn y Gymraeg

Wrth lansio'r cwrs, dywedodd Yr Athro Mark Drakeford, Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: "Mae darparu gwasanaethau iechyd a chymdeithasol yn Gymraeg wedi ei gysylltu yn anorfod o agos gyda darparu gofal safonol, diogel a thrugarog.

"Mae hyn yn arbennig o bwysig pan fydd pobl, yn enwedig hen bobl, plant, pobl sydd â dementia neu broblemau iechyd meddwl, ar eu mwyaf bregus.

"Rwyf wedi fy nghalonogi'n fawr gyda'r gwaith mae'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol wedi ei gyflawni i gefnogi gwasanaethau iechyd a chymdeithasol er mwyn cynyddu cyfleoedd ar gyfer yr iaith Gymraeg."

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

Rhannu’r stori hon