Ewch i’r prif gynnwys

Anrhydeddu Athro am gyfraniad i gymdeithas

24 Medi 2019

Cydnabyddiaeth Cymrawd y Gymdeithas Celfyddydau Frenhinol i arbenigwr Llenyddiaeth Saesneg

Mae’r Athro Llenyddiaeth Saesneg, Julia Thomas, wedi’i hethol yn Gymrawd y Gymdeithas Frenhinol.

Mae’r academydd wedi cael cydnabyddiaeth am ei chyfraniad rhagorol i gymdeithas, a gydnabyddir yn rhyngwladol, o fewn y celfyddydau ar gyfer dod â darluniau coll o lyfrau i’r amlwg drwy archifau digidol.

Mae Cymrodorion y gorffennol a’r presennol yn cynnwys Sir David Attenborough, y Fonesig Judi Dench, Charles Dickens, Stephen Hawking, Baroness Helena Kennedy, Nelson Mandela, Karl Marx ac Adam Smith.

Mae gan yr Athro Thomas, Cyfarwyddwr y Gronfa Ddata o Ddarlunwyr o Ganol Oes Fictoria a’r Archif Darluniau, ddiddordebau ac arbenigedd penodol yn niwylliant gweledol, astudiaethau geiriau a llun, a dyniaethau digidol Oes Fictoria.

Yr Archif Darluniau yw’r ffynhonnell fwyaf yn y byd o ddarluniau chwiliadwy ar-lein, yn sicrhau bod dros filiwn o ddarluniau ar gael yn fyd-eang o ganlyniad i gyllid prosiect Cyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau.

Dywedodd yr Athro Thomas:

‘Pleser o’r mwyaf yw cael yr anrhydedd hwn, sy’n cydnabod fy ngwaith o alluogi i ddarluniau hanesyddol digidol fod ar gael ar draws y byd. Rydw i’n edrych ymlaen at weithio gyda’r RSA i barhau i hyrwyddo cyfoeth diwylliannol ac arwyddocâd y celfyddydau.’

Cafodd Cymdeithas Frenhinol y Celfyddydau ei sefydlu ym 1754, ac mae hefyd yn cael ei alw’r Gymdeithas Frenhinol er hybu’r Celfyddydau, Gweithgynhyrchion a Masnach. Ei nod yw cyfoethogi cymdeithas drwy syniadau a gweithredu. Mae Cymrodoriaeth yr RSA (FRSA) yn wobr a roddir i unigolion sydd wedi gwneud cyfraniad rhagorol at gynnydd a datblygiad cymdeithasol, ym marn yr RSA.

Rhannu’r stori hon