Ewch i’r prif gynnwys

Perthynas ddiplomataidd rhwng y DU a’r Weriniaeth Tsiec yn 100 oed

9 Hydref 2019

Czechoslovakia, the state that failed book cover
Cover of Czechoslovakia: The State That Failed

Gwahoddiad i Hanesydd o Gaerdydd i annerch digwyddiad rhyngwladol yn y Weriniaeth Tsiec

Mae’r Athro Hanes Modern, Mary Heimann, yn mynd i rannu ei safbwyntiau ar hanes y berthynas rhwng y ddwy wlad mewn cynhadledd undydd ar 2 Hydref, wedi’i threfnu gan Lysgenhadaeth Prydain yn Prague i nodi canmlwyddiant hanesyddol sefydlu’r wladwriaeth Tsiecoslofacaidd.

Daw’r symposiwm hanesyddol o ganmlwyddiant y berthynas ddiplomataidd rhwng y DU a’r Weriniaeth Tsiec, a gynhelir ym Mhrifysgol Charles yn Prague, cyn Generation’89, digwyddiad a gaiff ei gynnal yn y Deml Heddwch ym mis Tachwedd 2019, i nodi deng mlynedd ar hugain ers y Chwyldro Melfed a wrth-drodd rheolaeth Gomiwnyddol yn Tsiecoslofacia.

Mae’r digwyddiad hanesyddol yn dod â haneswyr y Weriniaeth Tsiec a Phrydain ynghyd, gan gynnwys yr Athro Mark Cornwall, yr Athro Celia Donert a Dr Peter Neville, i drafod 100 mlynedd diweddaraf y berthynas. Rheithor Prifysgol Charles, yr Athro Prifysgol Zima, a Llysgennad Prydain, Mr Nick Archer, fydd yn agor y gynhadledd.

Bydd awdur y llyfr nodedig Czechoslovakia The State that Failed yn siarad am gyfnod y Rhyfel Oer yn ei darlith ar Gomiwnyddiaeth Tsieceg drwy Lygaid Prydeinig, 1948-1989. Ym mis Mai 2018, trefnodd yr Athro Heimann ddigwyddiad rhyngwladol Czechoslovakia100, sy’n nodi canmlwyddiant ers sefydlu’r wladwriaeth.

Rhannu’r stori hon