Ewch i’r prif gynnwys

Gwella diagnosis niwmonia

20 Tachwedd 2015

Doctor and child in clinic setting

Mae gwyddonwyr yn Ysgol Meddygaeth Prifysgol Caerdydd wedi cael grant mawr gan Sefydliad Bill a Melinda Gates i ddatblygu offer newydd sy'n gallu rhoi diagnosis o niwmonia yn gyflym.

Niwmonia yw'r brif haint sy'n achosi marwolaethau mewn plant ledled y byd, gan gyfrif am 15% o'r holl farwolaethau ymhlith plant dan bum mlwydd oed. Er y gellir trin y cyflwr gyda gwrthfiotigau, mae oedi wrth roi diagnosis, a diagnosis aneffeithiol, yn golygu mai dim ond traean y plant sy'n derbyn y gwrthfiotigau y mae arnynt eu hangen.

Mae'r dyfarniad o $100,000 i dîm o dan arweiniad Dr Bastiaan Hoogendoorn o'r Ysgol Meddygaeth, yn rhan o fenter $100 miliwn o'r enw Grand Challenges Explorations.  Mae'n ariannu unigolion ym mhedwar ban y byd i ymchwilio i syniadau a all dorri tir newydd yn y modd y caiff heriau parhaus o ran iechyd a datblygiad byd-eang eu datrys.

Wrth siarad am y dyfarniad, meddai Dr Hoogendoorn:  "Bydd ein grŵp rhyngddisgyblaethol yn cychwyn datblygu offer dadansoddi anadl am allan ar y pwynt gofal, a fydd yn caniatáu i feddygon wahaniaethu'n gyflym rhwng haint bacteria sy'n adweithio'n bositif neu'n negyddol mewn profion Gram a haint nad yw'n facteria mewn plant sydd â niwmonia. 

"Wrth wneud hynny, byddwn yn gallu rhoi diagnosis cyflym a chywir, ac yn gallu dechrau therapïau priodol yn amserol, a fydd maes o law yn helpu i liniaru'r gost ddynol sy'n gysylltiedig â'r cyflwr."

Ers ei lansio yn 2008, mae dros 1160 o brosiectau mewn dros 60 o wledydd wedi cael grantiau gan Grand Challenges Explorations.  Mae'r rhaglen grant ar agor i unrhyw un o unrhyw ddisgyblaeth ac o unrhyw sefydliad. 

Mae'r fenter yn defnyddio proses dyfarnu grantiau hyblyg a chyflym, gyda ffurflen gais ar-lein, sy'n ddwy dudalen o hyd yn unig, ac nid oes angen data rhagarweiniol.  Dyfernir grantiau cychwynnol o UD$100,000 ddwywaith y flwyddyn. Mae cyfle i brosiectau llwyddiannus gael grant dilynol o hyd at UD$1 miliwn. 

Er mwyn cael yr arian, mewn ffurflen gais ar-lein dwy dudalen o hyd, dangosodd Dr Hoogendoorn ac enillwyr eraill Grand Challenges Explorations syniad arloesol yn un o'r pum maes pwnc hollbwysig sy'n ymwneud ag iechyd a datblygiad byd-eang. 

Bydd yr ymchwil yn cael ei wneud ar y cyd rhwng Dr Hoogendoorn a Dr Clive Gregory yn yr Ysgol Meddygaeth; Dr Jenna Bowen a Dr Chris Allender yn yr Ysgol Fferylliaeth a Gwyddorau Fferyllol; a Dr Colin Powell yn Ysbyty Arch Noa i Blant Cymru.