Ewch i’r prif gynnwys

"Methiant y grŵp olaf o wrthfiotigau yn peri pryder"

19 Tachwedd 2015

Pills

Mae genyn newydd (MCR-1) sy'n galluogi bacteria i wrthsefyll polymicsinau - yr amddiffyniad gwrthfiotigol olaf sydd gennym - wedi'i ganfod mewn samplau eang o facteria a gymerwyd o foch a chleifion yn ne Tsieina, gan gynnwys mathau a allai achosi epidemig.

Cyhoeddir yr ymchwil heddiw yn The Lancet Infectious Diseases gan yr Athro Timothy Walsh o'r Ysgol Meddygaeth fu'n cydweithio ar y gwaith arloesol hwn gyda gwyddonwyr o Brifysgol Amaethyddol De Tsieina.

Cafwyd hyd i enyn MCR-1 ar blasmidau, sef DNA symudol y gellir eu copïo a'u trosglwyddo'n rhwydd rhwng gwahanol facteria gan awgrymu y gallai ledaenu ac amrywio mewn ffyrdd brawychus rhwng gwahanol boblogaethau o facteria.

Mae'r Athro Walsh yn arbenigo mewn ymwrthedd i wrthfiotigau ac yn fwyaf adnabyddus am ddarganfod byg peryglus NDM-1 yng nghyflenwad dŵr yfed Delhi Newydd. Roedd y byg hwn yn gallu gwrthsefyll gwrthfiotigau ac achosi clefydau. Wrth siarad am y darganfyddiad, dywedodd:

"Mae dod o hyd i enyn MCR-1 yn Tsieina yn peri cryn bryder gan fod yn golygu methiant y grŵp olaf o wrthfiotigau - polimicsinau - a methiant ein haen amddiffyn olaf yn erbyn haint.

"Mae lledaeniad cyflym genynnau tebyg fel NDM-1 sy'n gwrthsefyll gwrthfiotigau yn awgrymu y bydd pob gwrthfiotig yn aneffeithiol cyn bo hir yn erbyn heintiau bacteria sy'n adweithio'n negyddol mewn profion gram, megis E.coli a salmonela, yr oedd modd eu trin yn y gorffennol.

"Daeth i'r amlwg yn ein hymchwiliadau yn Tsieina bod MCR-1 eisoes yn gyffredin mewn samplau E.coli mewn anifeiliaid byw a chynhyrchion cig, yn ogystal â mewn ychydig o achosion dynol.

"Erbyn hyn, mae gennym dystiolaeth i awgrymu bod E.coli MCR-1-positif wedi lledaenu y tu hwnt i Tsieina, Laos a Malaysia, sy'n peri llawer o bryder.

"Bydd yr hyn a allai beri i MCR-1 achosi problem fyd-eang yn dibynnu ar y defnydd parhaus o wrthfiotigau polimicsin, fel colistin ar anifeiliaid, yn Tsieina a thu hwnt; gallu'r MCR-1 i ledaenu drwy fathau dynol o E.coli; a sut bydd pobl yn symud ar draws ffiniau Tsieina.

"Yn ôl pob tebyg, bydd MCR-1 yn lledaenu i weddill y byd ar gyfradd frawychus oni bai ein bod yn ymgymryd â dull cydlynol a byd-eang i fynd i'r afael ag ef.

"Heb wrthfiotigau newydd yn erbyn pathogenau sy'n adweithio'n negyddol mewn profion gram, ni ellir gorbwysleisio'r effaith y bydd yr enyn newydd hon yn ei chael ar iechyd pobl."