Ewch i’r prif gynnwys

Ffordd lai gwenwynig i guro canser

18 Tachwedd 2015

Peking Cardiff Collaboration

Gallai cyfuniad o gemegau diwenwyn o fwyd a llysiau fod yn allweddol er mwyn trechu canser na ellir ei drin ac ailwaeledd

Yn ôl canfyddiadau mewn astudiaeth fyd-eang a arweiniwyd ar y cyd gan Brifysgol Caerdydd, gallai cyfuniad o gemegau diwenwyn o fwyd a llysiau fod yn allweddol i fynd i'r afael â chanser na ellir ei drin ac ailwaeledd.

Er gwaethaf sawl datblygiad, mae llawer o therapïau canser yn hynod wenwynig. Hyd yn oed pan maent yn gweithio yn ôl pob golwg, bydd canran sylweddol o gleifion yn mynd yn wael eto ar ôl ychydig fisoedd yn unig. 

Isboblogaethau o gelloedd wedi mwtadu ac sy'n gallu gwrthsefyll therapi sy'n gyfrifol am ailwaeledd o'r fath fel arfer. Mae meddygon sy'n ceisio defnyddio cyfuniadau o therapïau i fynd i'r afael â'r broblem yn canfod bod gwenwyn therapiwtig fel arfer yn cyfyngu ar eu gallu i atal y rhan fwyaf o ganserau. 

I fynd i'r afael â'r broblem, aeth corff anllywodraethol o Ganada o'r enw 'Getting to Know Cancer' ati i greu tasglu oedd yn cynnwys 180 o wyddonwyr o sefydliadau blaenllaw mewn 22 o wledydd, gan gynnwys Cymru.   Enwebodd timau rhyngddisgyblaethol gyfres o dargedau moleciwlaidd i'w blaenoriaethu (74 i gyd) y gallai cemegau eu cyrraedd i wella canlyniadau i gleifion yn y rhan fwyaf o ganserau.

Aethpwyd ati wedyn i argymell cemegau gwenwyn isel cyfatebol a allai gael eu defnyddio ar gyfer cymysgeddau o gemegau a fyddai'n gallu cyrraedd sbectrwm eang o dargedau a flaenoriaethir yn y rhan fwyaf o ganserau.  Disgrifir eu gwaith mewn rhifyn arbennig o ‘Seminars in Cancer Biology’, Elsevier, a gyhoeddwyd heddiw.

Dywedodd Keith I. Block, MD, prif awdur y papur a Chyfarwyddwr Meddygol a Gwyddonol y Block Center for Integrative Cancer Treatment yn Skokie, Illinois: "Mae'r consensws eang ymysg y grŵp mawr hwn o ymchwilwyr wedi bod yn hynod galonogol. 

"Credwn y gellir datblygu cyfuniadau sydd wedi'u cynllunio'n ofalus o gemegau diwenwyn mewn modd fydd yn rhoi'r cyfle gorau posibl i ni atal y rhan fwyaf o ganserau.  Ar hyn o bryd, hyn a hyn o offer sydd gan glinigwyr i'w helpu i drin y clefyd pan fydd yn ymwrthod â'r prif fathau o therapi. Fodd bynnag, mae ymagwedd sy'n gallu cyrraedd sbectrwm eang o dargedau heb ddefnyddio gwenwyn, yn hynod addawol."

Hwn oedd y tro cyntaf i dimau o ymchwilwyr gydag amrywiaeth mor eang o arbenigedd ddod ynghyd i fynd i'r afael ag ailwaeledd, sy'n broblem gymhleth. Erbyn hyn, mae'r timau'n credu y gellir datblygu cyfuniadau sydd wedi'u cynllunio'n ofalus o gemegau diwenwyn mewn modd fydd yn rhoi'r cyfle gorau posibl i ni atal y rhan fwyaf o ganserau.

Cynhaliodd cangen Caerdydd o'r ymchwil nifer o ymchwiliadau ynglŷn â'r cemegau gwenwyn isel. Y gangen hon oedd yn arwain ar un o'i brif themâu hefyd: goresgyniad a metastasis (lledaeniad) canser.

Ynghyd â gwyddonwyr o nifer o wledydd eraill yng Ngogledd America, Ewrop a'r Dwyrain Pell, amlygodd y tîm gyfres o ffytogemegau a geir yn naturiol mewn planhigion. Drwy gymysgu'r rhain, ggallant ymyrryd mewn metastasis – prif achos marwolaethau canser.

Er enghraifft, cydweithiodd Prosiect Ymchwil Feddygol Gydweithredol Tsieina Prifysgol Caerdydd (CCMRC) â Phrifysgol Peking, Prifysgol Medical Capital, a Sefydliad Ymchwil Feddygol Yiling Tsieina i astudio meddygaeth lysieuol o'r enw YangZheng XiaoJi, sydd â phriodweddau sy'n ymladd canser.Daeth i'r amlwg iddynt y gallai'r feddygaeth ymyrryd mewn metastasis canser drwy dargedu'r pibelli gwaed newydd a ffurfir sy'n helpu'r tiwmor i dyfu, yn ogystal â nifer o lwybrau signalau cellog mewn canser nad yw wedi lledaenu eto.

Meddai'r Athro Wen Jiang o Ysgol Meddygaeth Prifysgol Caerdydd: "Mae meddyginiaethau Tsieineaidd traddodiadol yn faes diddorol ar gyfer therapïau canser newydd. Mae'r rhain yn fformwleiddiadau cymharol isel o ran gwenwyn a chost, sydd wedi cael eu defnyddio ers canrifoedd.  Er bod ymchwil ym maes canser wedi datblygu dros y blynyddoedd diwethaf, mae'r ymchwil i gyfansoddion i atal metastasis - proses sy'n gysylltiedig â phrognosis gwael i gleifion - wedi bod yn gymharol brin. 

"Mae ein gwaith ymchwil i YangZheng XiaoJi wedi ystyried effeithiolrwydd y fformwleiddiad hwn wrth dargedu priodweddau ymosodol sy'n cefnogi metastatis mewn amrywiaeth o fodelau canser dynol.  Daeth i'r amlwg y gallai YangZheng XioaJi amharu ar allu'r celloedd canser i gadw a mudo ac ymyrryd â nifer o lwybrau signalau sy'n gysylltiedig â datblygiad canser. 

"Ar ben hynny, gwelwyd bod y fformwleiddiad yn ymyrryd â'r broses lle mae celloedd canser yn helpu i ffurfio pibelli gwaed newydd sy'n cael gafael ar y maetholion sy'n angenrheidiol i gynnal eu datblygiad. Felly, gall hyn olygu bod modd ffurfio cemegyn gwenwyn isel sy'n gallu targedu sawl agwedd ar ddatblygiad canser.

Er bod yr ymchwilio'n parhau i sail foleciwlaidd y feddyginiaeth, mae nifer o dreialon clinigol yn cael eu cynnal yn Tsieina ar hyn o bryd mewn cleifion sy'n dioddef o ganser yr ysgyfaint, canser yr iau a chanser gastrig.

Yng ngoleuni'r dystiolaeth hon, mae'r tasglu'n galw am gynnydd ar unwaith yn y gefnogaeth ar gyfer ymchwil i gymysgedd o gemegau sy'n gallu cyrraedd sbectrwm eang o dargedau therapiwtig.  Mae llawer o gwestiynau heb eu hateb o hyd, felly mae angen treialon gydag anifeiliaid i ddatblygu'r dull hwn cyn bod modd cynnal treialon gyda phobl. 

"Dyma faes sy'n haeddu cryn sylw," meddai Dean Felsher MD PhD, arweinydd tîm arall yn y tasglu, o'r Adran Meddygaeth ym Mhrifysgol Stanford.  "Mae'r ffordd yr ydym yn mynd ati i ddatblygu therapïau yn gwella, ond mae angen ateb arnom fydd yn ein helpu i fynd i'r afael ag ailwaeledd. Hwyrach mai'r ymagwedd gweddnewidiol hon fydd yn rhoi'r cyfle i ni wneud hynny", ychwanegodd. 

Mae'r tasglu hefyd am greu therapi a allai fod yn gymharol rad oherwydd tybir bod sawl un o'r triniaethau canser diweddaraf yn rhy ddrud i wledydd incwm isel i ganolig. 

Felly, mae'r tasglu wedi gosod y seiliau ar gyfer ateb a ddylai fod yn rhad ac yn effeithiol er mwyn sicrhau bod y dull newydd hwn ar gael i bobl ledled y byd sy'n dioddef o ganser.