Ewch i’r prif gynnwys

Partneriaeth ddigartrefedd yng Nghymru'n cyrraedd y brig

12 Tachwedd 2015

Llamau KTP awards

Mae partneriaeth arloesol sydd wedi helpu i wella bywydau pobl ifanc digartref yng Nghymru wedi cyrraedd y brig ymhlith goreuon y DU

Enillodd cynrychiolwyr o Brifysgol Caerdydd a Llamau, yr elusen ddigartrefedd flaenllaw, Wobr Budd Cymdeithasol Cyngor Ymchwil y DU 2015.

Roedd y seremoni yn Llundain, a gynhaliwyd gan Innovate UK, yn dathlu'r Partneriaethau Trosglwyddo Gwybodaeth (KTP) gorau ledled y DU, i nodi 40 mlynedd ers dechrau'r partneriaethau hyn.

Mae Llamau yn darparu llety â chymorth, addysg a hyfforddiant i bobl ifanc ddigartref a menywod agored i niwed yng Nghymru. Gwnaethant ymuno â Phrifysgol Caerdydd ar ôl darganfod gwaith ymchwil a oedd yn ystyried materion iechyd meddwl ymysg pobl ifanc agored i niwed.

Cyflwynwyd grant KTP i'r prosiect gan Innovate UK, Llywodraeth Cymru, a’r Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol. Roedd y prosiect yn rhoi ymchwil ar waith yn ymarferol, gan helpu Llamau i wella'r gwasanaethau ar gyfer y bobl ifanc fwyaf agored i niwed yng Nghymru.

Datblygodd yr ymchwilwyr dechnegau sgrinio i helpu staff Llamau i sylwi ar rybuddion bod pobl ifanc mewn perygl, a chyflwyno gwasanaethau cefnogi gwell ar eu cyfer. Helpodd ymchwilwyr Caerdydd yr elusen i wella ei gweithdrefnau asesu a monitro, a datblygu gwell hyfforddiant i staff. Yn ei dro, mae hyn wedi helpu pobl ifanc ddigartref i ddatblygu sgiliau i fyw'n annibynnol a chyflawni eu potensial.

Dywedodd Dr Katherine Shelton, yr Ysgol Seicoleg: "Mae cydweithio gyda Llamau i roi ein hymchwil ar waith yn ymarferol wedi bod yn hynod werth chweil i'r staff a'r myfyrwyr a fu'n cymryd rhan, a'r wobr hon gan RCUK yw penllanw ein holl waith. Rydym wrth ein bodd, ac yn bwriadu parhau i weithio gyda'n gilydd i godi ymwybyddiaeth o anghenion iechyd meddwl pobl ifanc agored i niwed."

Ychwanegodd Sam Austin, Cyfarwyddwr Gweithredol a Dirprwy Brif Weithredwr Llamau: "Mae'n anrhydedd ennill y wobr hon. Rwy'n gweld effaith y gwaith ymchwil bob dydd. Mae staff yn defnyddio'r holiadur lles ac iechyd meddwl i gefnogi unigolion ifanc yn llawn, a chael gafael ar wasanaethau priodol. Mae'r ymchwil yn sail i'n hyfforddiant iechyd meddwl, ac rydym yn ei ddyfynnu mewn tendrau a cheisiadau grant i bwysleisio ein gwybodaeth arbenigol a gwerth ychwanegol.  Mae'r Bartneriaeth Trosglwyddo Gwybodaeth wedi caniatáu i ni feithrin partneriaeth barhaus a llwyddiannus gyda Phrifysgol Caerdydd."

Cyflwynwyd y wobr i Dr Katherine Shelton (yr Ysgol Seicoleg), Sam Austin (Llamau), a Kate Hodgson (Gweithiwr Cyswllt KTP).