Ewch i’r prif gynnwys

Constructaquote.com a Chaerdydd yn cydweithio

17 Medi 2019

Charlotte Clooney and Linda Haggett
Charlotte Clooney, sy’n fyfyriwr ym Mhrifysgol Caerdydd, gyda Linda Haggett, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cwsmeriaid constructaquote.com

Mae constructaquote ymhlith y 100 cwmni yswiriant mwyaf blaenllaw, ac maent yn cydweithio â Phrifysgol Caerdydd i wella dyfodol ein myfyrwyr drwy groesawu interniaid i bencadlys y cwmni yng Nghaerffili.

Bydd myfyrwyr sy’n astudio TG, Adnoddau Dynol a Busnes yn mynd ar leoliadau gwaith 6-12 mis o hyd.

Ar ôl cwblhau eu cwrs yn y brifysgol a’u lleoliad, caiff myfyrwyr rhagorol y cyfle i roi’r hyn maent wedi’i ddysgu ar waith fel gweithwyr amser llawn yn constructaquote.com.

Meddai Linda Haggett, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cwsmeriaid yn Constructaquote: “Trefniant hynod werth chweil yw gweithio mewn partneriaeth â Phrifysgol Caerdydd, un o brifysgolion gorau’r DU, i roi’r cyfle i bobl ifanc egniol rannu syniadau a datblygu eu sgiliau. Mae’n bleser gennym allu cynnig y cyfle i fyfyrwyr medrus ddechrau eu gyrfaoedd gyda ni.”

Mae Constructaquote.com yn gwmni Cymreig llwyddiannus. Mae’n arbenigo mewn trefnu yswiriant i fusnesau ym meysydd adeiladu, masnach, cwmnïau ymgynghori yn ogystal ag ar gyfer faniau a fflydoedd o gerbydau. Mae’n rhoi yswiriant i dros 750 o wahanol fasnachau ac mae wedi helpu i ddiwallu anghenion yswiriant dros 150,000 o gwmnïau.

Meddai Jane Goodfellow, Pennaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd ym Mhrifysgol Caerdydd: “Mae hwn yn gyfle gwych i’n myfyrwyr weithio gyda chwmni blaengar. Constructaquote yw un o gyflogwyr cryfaf Cymru ac edrychwn ymlaen at weld y bartneriaeth yn datblygu’n barhaus.”

Rhannu’r stori hon

Darganfyddwch pa sgiliau cyflogadwyedd rydych chi wedi’u hennill, y dewisiadau a’r swyddi sy’n agored i chi, a beth mae graddedigion eraill wedi mynd ymlaen i’w wneud.