Ewch i’r prif gynnwys

Prosiect Sepsis yn cynnal digwyddiad efelychu ar Ddiwrnod Sepsis y byd

16 Medi 2019

World Sepsis Day
Dr Simran Sharma performing a simulation to raise awareness of the significance of sepsis during pregnancy.

Cynhaliodd Prosiect Sepsis, Prifysgol Caerdydd, ynghyd â chlinigwyr o Ysbyty Athrofaol Cymru, ddigwyddiad efelychu o'r enw 'Sepsis: sylw i'r hyn all ddigwydd i fam a babi’ i nodi Diwrnod Sepsis y byd.

Mae sepsis yn gyflwr sy'n bygwth bywyd a gall effeithio ar blant a phobl o bob oed. Fodd bynnag, mae'n fwy cyffredin ymysg pobl fregus fel pobl ifanc iawn a phobl hen iawn. Mae'n anodd gwneud diagnosis o'r cyflwr gan fod symptomau yn gallu bod yn gynnil dros ben. Heb driniaeth, gall arwain at golli bywyd ymhen oriau.

Nod y digwyddiad a gynhaliwyd ddydd Gwener 13 Medi oedd codi ymwybyddiaeth o arwyddocâd sepsis yn ystod beichiogrwydd. Cafodd y rhai oedd yn bresennol, ar ôl cael eu croesawu gan yr Athro Peter Ghazal, brofiad o efelychiad wedi'i berfformio gan dîm clinigol o Ysbyty Athrofaol Cymru, yn adrodd stori wir am fam a babi a gafodd eu heffeithio'n ddifrifol gan sepsis.

Rhoddodd Amanda Hawkes, y fam dan sylw, gyflwyniad am ei phrofiad - gan gynnig darlun o lygad y ffynnon am sut beth oedd cael diagnosis o sepsis ar ôl bod yn feichiog am 32 wythnos.

Roedd y prynhawn yn brawf o'r cydweithio llwyddiannus rhwng Prifysgol Caerdydd a'r staff ymarfer clinigol ac mae’n gyfle gwych i godi ymwybyddiaeth ac ymgysylltu â'r cyhoedd.

Cafodd gwaith Prosiect Sepsis hefyd sylw yr wythnos ddiwethaf gan y BBC, a chafodd ei drafod ar Newyddion 9, S4C, BBC Radio Cymru a BBC Wales online.

Gwybodaeth am Brosiect Sepsis

Hanfod Prosiect Sepsis yw bod meddygon a gwyddonwyr mewn amryw feysydd yn cydweithio mewn ymateb i'r ffaith bod gwir angen dyfeisio ffordd fanwl gywir o adnabod a chanfod yr haint. Mae'n defnyddio dulliau dadansoddi'r genom, y proteom a metabolaeth â chymorth cyfrifiadurol. Ar sail hyn, gellir dadgodio ymateb y system imiwnedd er mwyn canfod heintiau yn gyflymach ac adnabod triniaethau arloesol.

Yn ôl yr Athro Peter Ghazal, a oedd yn siarad wythnos diwethaf am gamau nesaf Prosiect Sepsis:

"Mae'r ymchwil a'r gwaith rydym wedi'i wneud dros yr un mlynedd ar bymtheg diwethaf gyda channoedd o gleifion, wedi bod yn brawf o gysyniad. Beth sydd angen i ni ei wneud nawr yw symud y gwaith hwn ymlaen at ddilysiad clinigol - i ganfod pe bawn ni'n defnyddio ein dull fel prawf diagnostig, p'un a fyddai'n gwella canlyniadau i gleifion yn sylweddol.

Ein nod nawr yw gweithio gyda'r gymuned ehangach a hwyluso unrhyw brofion posibl, a allai gael eu cyflwyno i leoliad clinigol, cyn gynted â phosibl. Rydym yn gyffrous iawn ac o'r farn y gallai hyn gael ei gyflawni o fewn pum mlynedd. Mae'r prawf presennol yn cymryd diwrnodau ac yn methu mewn 85% o achosion.  Yr hyn rydym yn ei gynnig yw prawf a allai gymryd munudau neu oriau. Felly, gallai ychwanegu adnodd pwysig iawn i'r fyddin o feddygon i'w galluogi i ganfod sepsis, gwneud y penderfyniadau iawn a rhoi'r feddyginiaeth gywir i gleifion.

Mae Prosiect Sepsis yn gymuned ar waith. Mae'n cynnwys nifer o ddisgyblaethau o fewn meddygaeth, gwyddoniaeth a'r gymuned gyfan. Mae ein grŵp ymgynghorol lleyg yn bwysig iawn i'n gwaith; maent wedi cymryd gymaint o ran â phosibl ac wedi bod yn llywio’r ffordd y byddwn ni'n symud yn y dyfodol."

Rhannu’r stori hon