Myfyrwyr a staff yn codi ymwybyddiaeth ar Ddiwrnod Sepsis y Byd
16 Medi 2019
Ddydd Gwener diwethaf, bu staff a myfyrwyr nyrsio Ysgol y Gwyddorau Gofal Iechyd yn cymryd rhan mewn digwyddiad i nodi Diwrnod Sepsis y Byd.
Wrth gydweithio ag Uned Gofal Critigol Ysbyty Athrofaol Cymru, bu myfyrwyr a staff yn chwarae rhan amlwg yn ystod y dydd – yn gosod stondinau ar y campws ac yn ymgysylltu â phobl oedd yn mynd heibio.
Gall canfod sepsis a’i drin yn gynnar wella canlyniadau i gleifion. Nod y digwyddiad oedd codi ymwybyddiaeth o’r cyflwr sy’n bygwth bywydau a thynnu sylw at yr adnoddau sydd ar gael sy’n gallu helpu i’w ganfod a’i drin.
Yn ystod y dydd, bu myfyrwyr a staff yn hyrwyddo neges allweddol; rhaid i ni fod yn wyliadwrus wrth ofalu am gleifion a’r rhai rydym yn eu caru pan nad ydynt yn teimlo’n dda, gan fod yn sepsis yn gallu dechrau gyda rhywbeth sy’n ymdebygu i salwch cyffredin. Dylid chwilio am gymorth ar unwaith os yw’r person yn teimlo’n bryderus am eu cyflwr, yn ddryslyd, yn crynu’n eithafol neu os yw eu cyhyrau’n achosi poen.
Ledled y byd, mae 27-30 miliwn o bobl yn datblygu sepsis bob blwyddyn ac mae tua 52,000 o bobl yn y DU yn marw o sepsis yn flynyddol.
Gall sepsis effeithio ar blant a phobl o bob oed, fodd bynnag mae’n fwy cyffredin ymysg pobl sy’n agored i niwed fel pobl ifanc iawn a phobl hen iawn. Mae’n anodd gwneud diagnosis o'r cyflwr gan fod symptomau yn gallu bod yn gynnil dros ben. Heb driniaeth, gall arwain at farwolaeth ymhen oriau.
Dywedodd Andrew Parry, Darlithydd Nyrsio Oedolion: “Mae nyrsys ar flaen y gad o ran gofal cleifion ac mae’n hollbwysig ein bod ni’n gweithio i godi ymwybyddiaeth o sepsis ac arwyddion cynnar y cyflwr er mwyn cynnig triniaeth ar unwaith, sy’n dueddol o wella canlyniadau i gleifion.
Roedd ein myfyrwyr nyrsio yn barod iawn i roi o’u hamser ac ymdrechu i siarad â phobl - roedd eu gwaith yn glod iddyn nhw a safon y myfyrwyr sydd gennym yn ein hysgol.”