Ewch i’r prif gynnwys

Cydnabod a dathlu rhagoriaeth mewn ymarfer

10 Medi 2019

Wythnos diwethaf, cynhaliodd Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd, Prifysgol Caerdydd, Brynhawn Gwobrwyo i ddathlu'r partneriaethau llwyddiannus y mae'r Ysgol yn eu cynnal gydag Ymarfer Clinigol.

Roedd y digwyddiad, a gynhaliwyd yn Park Plaza, Caerdydd, yn tynnu sylw at y cyfleoedd gwych a gynigir i fyfyrwyr gofal iechyd y Brifysgol ar draws amrywiol sectorau iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru. Roedd hefyd yn cydnabod unigolion sydd wedi dangos cyfraniad eithriadol i addysg ymarfer clinigol.

Cafodd y digwyddiad adborth cadarnhaol gan westeion ac enwebeion gan gynnwys:

'Profiad hyfryd a ffordd ardderchog o gynnal perthynas dda gyda'n partneriaid ymarfer.'

'Ysbrydoledig, digwyddiad gwych i bob proffesiwn.'

'Wedi’i drefnu’n dda iawn. Digwyddiad hyfryd. Diolch. '

Daeth yn agos at gant o weithwyr gofal iechyd proffesiynol o bob rhan o Gymru i'r dathliad. Rhoddwyd yr anerchiad agoriadol gan yr Athro David Whitaker, Pennaeth a Deon Ysgol y Gwyddorau Gofal Iechyd a dilynwyd hyn gan gyflwyno gwobrau, a lywyddwyd gan yr Athro Dianne Watkins, Dirprwy Bennaeth yr Ysgol.

Roedd y digwyddiad yn amser i ddathlu llwyddiant mentoriaid, addysgwyr, timau a myfyrwyr mwyaf yr ysgol. Dewiswyd enillydd a’r un yn yr ail safle i bob categori gan fyfyrwyr ar draws rhaglenni'r Ysgol y Gwyddorau Gofal Iechyd.

Eleni, cyflwynwyd y wobr Cydnabyddiaeth Arbennig i Patricia Brown, Hwylusydd Ymarfer arbenigol iawn o Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro. Fel nyrs band saith, derbyniodd Patricia'r wobr am ei gwaith caled a'i hymroddiad fel mentor lleoliad.

Mae gwobr Mentor Cymraeg Gorau yn amlygu ymrwymiad yr Ysgol i'r iaith Gymraeg. Cafodd enwebiadau ar gyfer y wobr hon eu gwneud gan fyfyrwyr sydd wedi cael eu haddysg drwy gyfrwng y Gymraeg ac sydd wedi bod ar leoliad gyda mentoriaid sy'n siarad Cymraeg.

Dyfarnwyd gwobr Mentor Cymraeg Gorau i Sue Eckersley, sy'n fentor lleoliad yn yr Ysbyty Adsefydlu Meddygol yng Ngwynedd, gydag Eleri McAuley, Tîm Nyrsys Ardal yr Eglwys Newydd, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro yn ennill y wobr ail safle.

Rhoddwyd y sylwadau clo gan Stuart Nixon, aelod o Grŵp Cynnwys Cleifion a'r Cyhoedd (PPI) sef grŵp o fewn Ysgol y Gwyddorau Gofal Iechyd sy'n ymgysylltu'n weithredol ag amrywiaeth o bobl i ddylanwadu ar addysg ac ymchwil ym maes gofal iechyd gweithwyr proffesiynol.

Meddai Athro David Whitaker, Pennaeth Ysgol a Dean, Ysgol y Gwyddorau Iechyd:

‘Ein braint yw i gydnabod eu hymroddiad, eu brwydfrydedd a’u tosturi trwy wobrwy’r rhai â enwebwyd am gyflawniadau rhagorol mewn addysg lleoliad. Rydym yn hynod ffodus I gael gweithwyr proffesiynol mor mor dalentog yn rhan o addysg ein myfywrwyr; helpu i hyfforddi a hyrwyddo’rgenhedlaeth nesa o weithwyr gofal iechyd proffesiynol.’

Dyma’r enillwyr gwobrau

Yr addysgwr/mentor gorau mewn lleoliad ym mhob rhaglen

Addysgwr/Mentor Gorau mewn LleoliadEnillydd
FfisiotherapiLuke Newey, Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe
Therapi Galwedigaethol Beverley Williams, Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe
Ymarfer Gofal Llawdriniaethol Sarah Brookes, Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan
Radiograffeg a Delweddu Diagnostig Carol Osman, Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan
Radiotherapi ac Oncoleg Vasanti Pindoria, Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre
Bydwreigiaeth Stephanie Evans, Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan
Nyrsio Oedolion Barbara Banyard, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro
Nyrsio Plant Annie Hughes, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro
Nyrsio Iechyd Meddwl Reena James, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

Y myfyriwr gorau - cyflawniad clinigol ym mhob rhaglen

Myfywriwr Gorau - Cyflawniad ClinigolEnillydd
Ffisiotherapi Amy Marshall, BSc (Anrhydedd) Ffisiotherapi
Therapi Galwedigaethol Gavin Birch, BSc (Anrhydedd) Therapi Galwedigaethol
Ymarfer Gofal Llawdriniaethol Jessica Graney, BSc (Anrhydedd) Ymarfer Gofal Llawdriniaethol
Radiograffeg a Delweddu Diagnostig Mared Williams, BSc (Anrhydedd) Radiograffeg a Delwedd Diagnostig
Radiotherapi ac Oncoleg Aliesha Kervell, BSc (Anrhydedd) Radiotherpi ac Oncoleg
Bydwreigiaeth Helen Showan, BMid (Anrhydedd) Bydwreigiaeth
Nyrsio Oedolion David Bray, BN (Anrhydedd) Nyrsio Oedolion
Nyrsio Plant Billie Jo Powell, BN (Anrhydedd) Nyrsio Plant
Nyrsio Iechyd Meddwl Kate Gregory, BN (Anrhydedd) Nyrsio Iechyd Meddwl

Y tîm lleoliad gorau ym mhob rhaglen

Tîm Lleoliad GorauEnillydd
Ffisiotherapi Tîm Strôc Aciwt, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
Therapi Galwedigaethol Tîm Anabledd Dysgu Cymunedol, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
Ymarfer Gofal Llawdriniaethol Tîm Anaestheteg, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro
Radiograffeg a Delweddu Diagnostic Ysbyty Singleton, Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe
Radiotherapi ac Oncoleg Radiograffwyr Therapiwteg, bwrdd iechyd prifsycgol Betsi Cadwaladr
Bydwreigiaeth Uned Famolaeth o dan Arweiniad Bydwragedd, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro
Nyrsio Oedolion Ward A7, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro
Nyrsio Plant Morfach (Seahorse), Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro
Nyrsio Iechyd Meddwl Carn y Cefn, Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

Enillwyr y wobr cydnabyddiaeth arbennig a'r mentor Cymraeg gorau


GwobrEnillydd
Gwobr Cydnabyddiaeth Arbenning Patricia Brown, Bwrdd Iechyd Prifsygol Caerdydd a'r Fro
Mentor Cymraeg Gorau Sue Eckersley, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Am fwy o wybodaeth am y digwyddiad dathlu, cysylltwch a'r tîm marchnata gwyddorau gofal iechyd: HCAREmarketing@cardiff.ac.uk.

Rhannu’r stori hon