Cwmni wedi derbyn ardystiad gyda chefnogaeth myfyriwr KESS 2
23 Awst 2019
Mae Alan Rawdin, myfyriwr sy’n astudio peirianneg wedi helpu Read Construction i fod y contractwr cyntaf yng Nghymru a’r DU i dderbyn Ardystiad Modelu Gwybodaeth Adeilad (BIM) ar gyfer systemau a phrosesau busnes ISO19650 gan y BSI.
Bydd yr ardystiad yn cael ei gyflwyno i Read Construction gan Ken Skates AC, Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, mewn seremoni yn yr Wyddgrug ar 13 Awst.
Mae Alan, sy’n gwneud PhD yn yr Ysgol Peirianneg gyda’r Athro Haijiang Li, wedi bod yn gweithio gyda Read Construction yn rhan o raglen Ysgoloriaeth Sgiliau'r Economi Wybodaeth (KESS 2) a gefnogir gan Gronfeydd Cymdeithasol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru. Mae’r rhaglen yn cysylltu cwmnïau a sefydliadau ag ymchwilwyr ym mhrifysgolion Cymru er mwyn ymgymryd â phrosiectau ymchwil ar y cyd. Mae’r cynllun, sydd wedi’i arwain gan Brifysgol Bangor, yn cynnig ysgoloriaethau i fyfyrwyr ymchwil weithio gyda chwmnïau ar brosiectau ar y cyd sy’n arwain at PhD neu gymhwyster gradd Meistr Ymchwil.
Mae Alan wedi bod yn cefnogi’r cwmni drwy weithredu a deall y gofynion, y prosesau busnes a’r systemau sydd eu hangen er mwyn cydymffurfio â’r safon newydd ynghylch BIM. Mae prosiect ymchwil Alan yn cynnwys defnyddio BIM ar gyfer sicrhau ansawdd prosiectau amlweddog, ac mae Alan wedi rhannu ei wybodaeth am yr ymchwil drwy gyflwyniadau i bob un o’r 22 o awdurdodau lleol ar draws Cymru ac yn rhyngwladol yn Tsieina hefyd.
Mae canolfan BIM ar gyfer Peirianneg Glyfar yn yr Ysgol Peirianneg yn gweithio gyda nifer o gwmnïau cenedlaethol a rhyngwladol er mwyn datblygu, yn ogystal â Safonau Agored newydd ynghylch BIM, offer ar gyfer y diwydiant hefyd.
Meddai’r Athro Haijiang Li: “Rydym wrth ein boddau’n cyfrannu at y cyflawniad cyffrous hwn. Byddwn yn parhau i drosglwyddo ein gwybodaeth am BIM er mwyn helpu i ddigideiddio’r diwydiant adeiladu yng Nghymru a thu hwnt”.