Ewch i’r prif gynnwys

Artistiaid o Grangetown yn braslunio portreadau o drigolion lleol

20 Awst 2019

GT ARTISTS
Grangetown artists Jane Hubbard and Paul Edwards capturing portraits of local residents

Mae artistiaid o Grangetown, Jane Hubbard a Paul Edwards, wedi bod yn darlunio trigolion, gweithwyr cymdeithasol, fferyllwyr, gweithwyr adeiladu, PCSOs a phobl yn cerdded heibio yng Ngerddi Grange.

Gwahoddir pobl i eistedd am 15 munud tra bod un o’r ddau artist yn eu portreadu. “Fe fu’n braf cael y cyfle i gwrdd â phobl” meddai Jane. Er bod rhai pobl yn ymddangos yn rhy swil, bu’r rheini a gytunodd i gael portread yn mwynhau’r profiad yn ôl pob golwg. “Roedd yn drawiadol i fi pa mor llonydd y bydden nhw’n eistedd, roedden nhw o ddifrif amdani” dywedodd Paul.

Bydd y cyfranogwyr yn cael eu portreadau gwreiddiol ar ôl iddynt gael eu sganio. Bydd argraffiadau o’r holl ddarluniau i’w gweld ar hysbysfyrddau Pafiliwn Grange, ynghyd â dyluniadau celf chwistrellu a gwblhawyd gan bobl ifanc yr wythnos ddiwethaf dan arweiniad Amelia Unity a Kyle Legall o Gaerdydd.

Cafodd y prosiect ei drefnu gan un o breswylwyr Grangetown, yr artist Deborah Jones, a ddywedodd:

“Ces i fy ysbrydoli i ddechrau’r prosiect hwn fel y gallwn gynnal trafodaethau ynghylch dyfodol y pafiliwn, a dathlu’r cyfoeth o unigolion a chymeriadau sydd gennym yn ein cymdogaeth. Mae’r darluniau hefyd yn bortread torfol o bwy mae’r pafiliwn newydd ar eu cyfer a phwy sy’n ei adeiladu - dyma bortread o’r gymuned yn dod at ei gilydd”

Gosodir y portreadau ar yr hysbysfyrddau o gwmpas Pafiliwn Grange yn ystod y gwaith adeiladu, a byddant ar gael i’w gweld ymhen yr wythnosau nesaf.

Rhannu’r stori hon