Yr Ysgol Peirianneg yn rhan o dîm sy’n ennill yr ail wobr mewn cystadleuaeth o fri.
19 Awst 2019
Roedd Dr Ze Ji, Dr Hanlin Niu, a’r myfyriwr Pietro Liguori, o’r Ysgol Peirianneg yn rhan o dîm a enillodd ail wobr Cystadleuaeth Dylunio ac Adeiladu Cerbyd Morol 2019 a 8fed Cystadleuaeth Dylunio ac Adeiladu Cerbyd Morol Tsieina.
Dyma’r gystadleuaeth fwyaf yn y maes hwn yn Tsieina. Cymerodd mwy na 600 o dimau ran yn y digwyddiad, gan gynnwys timau o 13 o brifysgolion rhyngwladol. Fe wnaeth Prifysgol Caerdydd a nifer o brifysgolion eraill gan gynnwys Dundee, Caerfaddon, Essex, Ystrad Clud a UCL gynrychioli’r DU. Dyma’r tro cyntaf i brifysgolion rhyngwladol gael eu gwahodd i gymryd rhan yn y digwyddiad.
Gwahoddwyd Dr Ze Ji, darlithydd yn yr Ysgol Peirianneg, i arwain tîm o bedwar myfyriwr, a oedd yn cynnwys Pietro Liguori o’r Ysgol Peirianneg, myfyriwr o Goleg Prifysgol Llundain a dau fyfyriwr o Brifysgol Peirianneg Harbin. Roedd y tîm yn cael ei gefnogi gan Dr Hanlin Niu o’r tîm ASTUTE ym Mhrifysgol Caerdydd.
Ar ôl cystadleuaeth a barodd am 2 ddiwrnod ym Mhrifysgol Peirianneg Harbin, enillodd y tîm yr ail wobr yn y gystadleuaeth o fri hon.
“Cefnfor, Arloesedd, Cydweithredu a Phawb ar eu hennill” fu thema’r gystadleuaeth a dyma’r gystadleuaeth gyntaf o’i fath gyda’r nifer mwyaf yn cymryd rhan.