Ewch i’r prif gynnwys

Darllenydd o Gaerdydd yn siarad yng ngweithdy ar gyfer Economi Glas Affrica

1 Mehefin 2019

Cafodd Darllenydd o Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth wahoddiad i Dde Affrica y mis Mai hwn i roi dau gyflwyniad arbenigol mewn gweithdy ynghylch Adnoddau Gwely Môr Dwfn Affrica (ADSR).

Cafodd Dr Edwin Egede, Darllenydd mewn Cyfraith Ryngwladol a Chysylltiadau Rhyngwladol, wahoddiad i roi cyflwyniadau ar ‘derfyn allanol y sgafell gyfandirol yn Affrica: y sefyllfa a rhagolygon ar hyn o bryd’ a ‘Gweithgarwch annibynnol y fenter: safbwyntiau a heriau’.

Cynhaliwyd y gweithdy, yr aeth sawl diplomydd Affricanaidd a swyddogion pwysig y llywodraeth iddo, ym Mhretoria, De Affrica o 16 tan 18 Mai 2019, gan Lywodraeth De Affrica. Awdurdod Rhyngwladol Gwely’r Môr a’i drefnodd. Mae’r awdurdod yn sefydliad rhynglywodraethol o Kingston, Jamaica, sy’n rheoli gwely’r môr y tu hwnt i awdurdodaeth genedlaethol ynghyd â’r adnoddau mwynol gwerthfawr a geir ynddo, sydd wedi’u galw’n Dreftadaeth Gyffredinol i Ddynolryw.

Datganodd Dr. Egede, awdur y llyfr, Africa and the Deep Seabed Regime: Politics and International Law of the Common Heritage of Mankind (2011): “Pleser o’r mwyaf oedd cael fy nghynnwys i rannu gwybodaeth a magu gallu yn y gweithdy lefel-uchel hanfodol hwn ar gyfer hyrwyddo datblygiad cynaliadwy adnoddau gwely môr dwfn Affrica, er mwyn cefnogi Economi Glas Affrica.”

Rhannu’r stori hon