Ewch i’r prif gynnwys

Yr Ysgol Ieithoedd Modern yn croesawu symposiwm Tsieineaidd dathliadol

14 Gorffennaf 2019

Daeth dathliad o iaith, diwylliant a chelfyddydau Tsieina i Gaerdydd ym mis Gorffennaf mewn digwyddiad â'r nod o gyfoethogi cyfathrebu rhyngddiwylliannol rhwng y Dwyrain a'r Gorllewin.

Cynhaliwyd pedwerydd Dialog Symposiwm Rhyngwladol rhwng Addysgu Iaith a Diwylliant a Chelfyddydau Tsieina ar draws amrywiol leoliadau yn y ddinas ar 10-11 Gorffennaf 2019.

Roedd yr Ysgol Ieithoedd Modern yn ddelfrydol ar gyfer cynnal y pedwerydd symposiwm. Mae'n cynnwys cyfoeth o wybodaeth ac arbenigedd ac mae'n ganolfan Astudiaethau Tsieineaidd sy'n tyfu. Y symposiwm oedd y digwyddiad cyntaf i gael ei gyd-drefnu gan yr adran Astudiaethau Tsieineaidd yn yr Ysgol, eu partner strategol Prifysgol Normal Beijing (BNU) a Sefydliad Confucius Caerdydd.

Cafodd y digwyddiad gefnogaeth hefyd gan Brifysgol Leeds, a SOAS Prifysgol Llundain sy'n aelodau craidd o Gymdeithas Addysgu Tsieinëeg Prydain a Chymdeithas y DU-Tsieina ar gyfer Goruchwylio Myfyrwyr Ymchwil yn Addysgu Tsieinëeg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill.

Agorodd y digwyddiad ar 10 Gorffennaf gydag amrywiol gyflwyniadau oedd ar agor i'r cyhoedd. Cyflwynwyd y prif anerchiad cyntaf gan Is-Ddeon Cyd-goleg Tsieinëeg BNU-Caerdydd, yr Athro Lihui Yang, ar y testun Delweddau o Loong/Draig mewn Mythau Tsieineaidd: A Thrafodaeth am y Ffordd o Ddeall Cyfathrebu Traws-Ddiwylliannol. Ymhlith y cyflwyniadau eraill oedd trafodaethau ar ddiwylliant Tsieina a'r celfyddydau, yr astudiaeth gymharol o ddiwylliant Tsieina a'r Gorllewin, trosglwyddo diwylliant drwy iaith, ehangu addysgu Tsieinëeg a hyrwyddo cyfathrebu a rhyngweithio rhwng diwylliannau.

Yn ystod yr egwyl cinio ar ddiwrnod cyntaf y symposiwm, perfformiodd yr Athro Qing Wang o BNU galigraffeg Tsieineaidd draddodiadol i o ddeutu 45 o gynrychiolwyr oedd yn hanu o'r DU, Tsieina, Ffrainc a'r Unol Daleithiau. Gyda'r nos, mwynhaodd y cynrychiolwyr ac aelodau o'r cyhoedd  gyngerdd oedd yn cynnwys perfformiadau gan artistiaid uchel eu proffil fel Prif Denor Theatr Opera a Dawns Drama Genedlaethol Tsieina, Mr Li Zhentao, y pianydd ifanc gwobrwyedig nodedig o'r Academi Gerdd Frenhinol, Mr Yuanfan Yang a Phennaeth yr Ysgol Cerddoriaeth, yr Athro Kenneth Hamilton.

Parhaodd y digwyddiad ar 11 Gorffennaf gydag ymchwilwyr ac athrawon o'r Ysgol Ieithoedd Modern yn cyflwyno eu gwaith i'r cynrychiolwyr. Roedd y pynciau'n cynnwys ieithyddiaeth gymwysedig ac addysgeg iaith, cyfathrebu rhyngddiwylliannol, astudiaethau cyfieithu, ac astudiaethau'r cyfryngau, a'r gobaith yw y caiff nifer eu cyhoeddi maes o law yn dilyn y digwyddiad.

Ychwanegodd yr Ysgol Ieithoedd Modern y BA mewn Tsieinëeg Fodern i'w chyfres o ieithoedd yn 2016 sy'n golygu ei bod yn rhan gymharol newydd o arlwy Prifysgol Caerdydd. Yn unigryw, mae'r rhaglen yn cynnig gradd ddeuol i fyfyrwyr o Brifysgol Caerdydd a Phrifysgol Normal Beijing. Drwy ein perthynas â BNU, mae coleg Tsieinëeg wedi'i sefydlu yn y DU gyda gweledigaeth fyd-eang i addysgu iaith a diwylliant Tsieineaidd a datblygu dealltwriaeth o gymdeithas, gwleidyddiaeth, diwylliant, economeg, addysg a chyfraith Tsieina. Yn 1019 cyflwynom ni ail raglen israddedig Tsieinëeg, y BA Tsieinëeg, fydd yn croesawu ei charfan gyntaf o fyfyrwyr ym mis Medi eleni.

Yn dilyn y symposiwm, dywedodd Xuan Wang, Cyfarwyddwr y Rhaglen Astudiaethau Tsieineaidd, "Roedd yr Ysgol Ieithoedd Modern a'n partneriaid yn BNU a Sefydliad Confucius yn falch iawn i groesawu cynrychiolaeth mor amlddiwylliannol i Gaerdydd i'n symposiwm. Roedd hwn yn ddigwyddiad pwysig ac uchelgeisiol i'n Hadran Astudiaethau Tsieineaidd o ystyried ei bod yn ddisgyblaeth ifanc iawn ym Mhrifysgol Caerdydd gyda thîm bach. Rydym ni am osod Astudiaethau Tsieineaidd ym Mhrifysgol Caerdydd ar y map yn genedlaethol ac yn rhyngwladol ac mae cyfleoedd fel hyn yn gadael i ni sefydlu a meithrin ein cysylltiadau gyda phrifysgolion yn fyd-eang. Mewn cyfnod o ansicrwydd oherwydd Brexit, mae hyrwyddo pob iaith yn allweddol ac mae digwyddiadau fel hyn yn helpu i hyrwyddo'r syniad. Hoffwn gymryd y cyfle i ddiolch i Brifysgol Leeds, a SOAS Prifysgol Llundain a gefnogodd y digwyddiad ac yn benodol i Dr Lan Yang a Dr Lianyi Song oedd yn ymgynghorwyr allweddol."

Rhannu’r stori hon