Ewch i’r prif gynnwys

Rhedwch i’r Pafiliwn! Mae aelodau Run Grangetown yn codi arian ar gyfer adeilad cymunedol newydd

13 Awst 2019

Run gt
Run Grangetown running group

Mae aelodau o grŵp rhedeg Run Grangetown wedi addo rhedeg 365 milltir yr un dros flwyddyn er mwyn codi arian ychwanegol tuag at Bafiliwn Grange yn Grangetown.

Ar ôl codi £1.1m drwy godi arian a grantiau mae Prosiect Porth Cymunedol Caerdydd Prifysgol Caerdydd, partneriaid cymunedol lleol a’r trigolion yn agos at gael adeilad cymunedol newydd yng nghanol Grangetown. Mae angen ychydig dros £100k yn fwy ar y prosiect ac mae’r trigolion a grwpiau lleol yn benderfynol o godi’r arian sy’n weddill.

Dywedodd Moseem Suleman, un o aelodau’r gymuned ac aelod o grŵp rhedeg Run Grangetown:

“Mae pump ohonom eisiau codi £350 yr un tuag at Bafiliwn Grange. Bydd yr adeilad yn un gwych a  fydd o fudd i’r gymuned am genedlaethau i ddod, yn ogystal â gwneud gwahaniaeth yn syth i’n cymuned”

Mae’r trigolion wedi mynegi eu cefnogaeth barhaus ar gyfer yr adeilad newydd, gan amlygu’r angen am leoliad lle gall cymuned amrywiol iawn ac amlddiwylliannol Grangetown ddod at ei gilydd ac uno fel cymuned.

Dechreuodd y gwaith adeiladu yng Ngerddi’r Faenor yn gynharach yn y flwyddyn gyda’r gobaith y bydd Pafiliwn Grange yn agor ei ddrysau ym mis Chwefror 2020.

Er mwyn rhoi arian tuag at Bafiliwn Grange a chefnogi rhedwyr Run Grangetown yn eu hymdrechion, ewch i’r dudalen codi arian.

https://www.youtube.com/watch?v=-vVHZSVe3-0&feature=youtu.be

Rhannu’r stori hon