Ewch i’r prif gynnwys

Olrhain therapiwteg i’r ymennydd

13 Awst 2019

Black and white network of brain cells

Mae mwy na £250,000 o gyllid yn helpu ymchwilwyr ym Mhrifysgol Caerdydd i labelu a delweddu gronynnau biolegol bach i brofi eu defnydd posibl i drin clefyd a chanser yr ymennydd.

Dyfarnwyd cyllid gan Bartneriaeth Trosglwyddo Gwybodaeth Innovate UK i Sefydliad Ymchwil Bôn-gelloedd Canser Ewropeaidd, a fydd yn ei helpu i archwilio ffyrdd newydd o ddarparu therapïau yn y dyfodol.

Bydd y grant newydd yn datblygu gwaith a wnaed eisoes yn y Sefydliad, a oedd yn monitro taith gronynnau biolegol bach, o’r enw ecsosomau o amgylch y corff.

Cynhelir yr ymchwil newydd ar y cyd â phartneriaid diwydiannol, ReNeuron.

Dywedodd Dr Florian Siebzehnrubl o Brifysgol Caerdydd: “Mae ecsosomau yn barseli bach sy’n cario deunyddiau, ac mae ganddynt rôl bwysig wrth helpu celloedd i gyfathrebu â’i gilydd.

“Gall ecsosomau fod yn allweddol wrth ddarparu therapïau yn y dyfodol. Drwy weinyddu ecsosomau sy’n cynnwys therapiwteg, gallai fod ffordd newydd o ddarparu triniaethau.

“Er mwyn manteisio ar botensial hyn yn y dyfodol, mae angen i ni ddeall sut mae ecsosomau’n symud o amgylch y corff. Yn y gorffennol, drwy gyllid gan y Cyngor Ymchwil Meddygol, rydym wedi archwilio a yw math penodol o ecsosomau’n cyrraedd yr ymennydd.

“Bydd y cyllid newydd hwn gan Innovate UK yn ein galluogi ni, ar y cyd â ReNeuron a Chanolfan Delweddu Tomograffeg Gollwng Positronau (PET) Cymru, i ddatblygu’r ymchwil hon ymhellach a phrofi’r potensial ar gyfer targedu canser a chlefyd yr ymennydd.”

Mae’r dyfarniad yn ariannu ymchwil sy’n olrhain symudiadau ecsosomau mewn modelau o ganser yr ymennydd, drwy labeli’r ecsosomau ag olrheiniwr ymbelydrol.

Drwy sganio’r modelau a monitro lle mae’r ecsosomau wedi teithio, gall y Sefydliad archwilio a ydynt yn cyrraedd yr ymennydd i roi triniaeth.

Mae swydd ymchwil ôl-ddoethurol hefyd wedi’i hariannu drwy’r grant.

“Mae’r cyllid hwn yn ein helpu i gynnal gwaith hanfodol, a fydd gobeithio, yn ein galluogi i gael darlun ehangach o ddyfodol therapïau ecsosomau ar gyfer clefyd a chanser yr ymennydd,” ychwanegodd Dr Florian Siebzehnrubl.

Cynhelir y prosiect hwn ar y cyd â’r Athro Matt Smalley o Sefydliad Ymchwil Bôn-gelloedd Canser Ewropeaidd a’r Athro Christopher Marshall, Cyfarwyddwr Canolfan Ymchwil a Diagnosteg Delweddu PET Cymru.

Rhannu’r stori hon