Ewch i’r prif gynnwys

Fy Mhafiliwn, Fy Rheolau: Diwrnodau Her Fizalan 2019

6 Awst 2019

Fitzalan
Students on the Fitzalan Challenge Days

Yn ddiweddar, trefnodd y Porth Cymunedol gyfres o Ddiwrnodau Her i fyfyrwyr o Ysgol Uwchradd Fitzalan.

Cymerodd dros 20 o fyfyrwyr ran mewn gweithgareddau dan arweiniad Dominika Matuisak ac Andrea Drobna, ymchwilydd haf a llysgennad myfyrwyr y Porth Cymunedol. Yn ystod y dydd gofynnwyd i'r myfyrwyr drafod sut i ofalu am gymuned Grangetown a Phafiliwn Grange. Arweiniodd hyn at y myfyrwyr yn cynnig pum rheol allweddol ar sut i ofalu am y man newydd. Y rheolau hynny oedd:

  1. Peidiwch â difrodi'r lle a'r offer
  2. Cydraddoldeb i bawb
  3. Parchwch bawb
  4. Cymrwch ran yn y gweithgareddau sydd ar gael
  5. Byddwch yn eco-gyfeillgar

Ar ail ddiwrnod yr her, cafodd y myfyrwyr gyfle i brofi bywyd fel penseiri. Aethon nhw i safle adeiladu Pafiliwn Grange ac roedd Dr Mhairi McVicar a chynrychiolwyr o BECT Construction yno i egluro'r broses adeiladu ac i ateb unrhyw gwestiynau oedd gan y myfyrwyr am y pafiliwn newydd. Yna cawsant daith o amgylch Ysgol Pensaernïaeth Cymru. Yn ddiweddarach y diwrnod hwnnw, gofynnwyd iddynt feddwl am weithgaredd yr hoffent ei weld yn cael ei gynnal yn y pafiliwn. Crëwyd lluniadau a gludweithiau ganddynt i arddangos eu syniadau gwych.

Drannoeth, teithiodd y myfyrwyr i Ganolfan Hamdden Channel View. Yno, roedd y trafodaethau a'r gweithgareddau'n canolbwyntio ar ofalu am y gymuned a'r pafiliwn. Roedd y gweithgareddau'n amrywio o feddwl am sut y gallant ofalu am eraill, gofalu am eu ffrindiau, a gofalu am y lleoedd y maent yn byw ynddynt ac yn eu defnyddio. Uchafbwynt y diwrnod oedd ras casglu sbwriel a baratowyd ar gyfer y myfyrwyr er mwyn iddynt ddysgu am ddidoli gwastraff.

Ar y cyfan, roedd gweithgareddau eleni yn llwyddiant ysgubol ac edrychwn ymlaen at gynnal Diwrnodau Her nesaf Fitzalan!

Rhannu’r stori hon