Ewch i’r prif gynnwys

Gwobr gwrthfiotig ar gyfer prawf pwynt gofal

1 Awst 2019

Mae Efi Mantzourani, Uwch-ddarlithydd yn yr Ysgol Fferylliaeth a Gwyddorau Fferyllol, wedi ennill Gwobr Gwarcheidwad Gwrthfiotigau am waith a wnaed yn rhan o dîm yng Ngwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru (NWIS). Sefydlwyd y gwobrau i ddathlu gweithwyr gofal iechyd ledled y byd sy'n mynd i'r afael â phroblem gynyddol ymwrthedd i wrthfiotigau.

Roedd categorïau'r gwobrau'n cynnwys Iechyd Anifeiliaid a Diagnosteg ymhlith eraill, a chafodd tîm Dr Mantzourani lwyddiant yn y categori Arloesedd a Thechnoleg. Sefydlwyd NWIS yn 2010 i gynnig technoleg, systemau a gwasanaethau iechyd digidol o'r radd flaenaf sydd eu hangen ar gyfer gofal cleifion modern. Cafodd eu hymdrechion yn y frwydr yn erbyn ymwrthedd i wrthfiotigau eu cydnabod am ddefnyddio ‘Dewis Fferyllfa’ yn eu gwasanaeth peilota Profi a Thrin Gyddfau Tost.

Mae'r fenter hon yn cynnwys ymgynghori â fferyllydd sydd wedi cael hyfforddiant ychwanegol, lle cynhelir archwiliad clinigol a, lle bo angen, prawf pwynt gofal. Pan amheuir bod gan y claf haint bacteriol mae hyn yn help i benderfynu ar y driniaeth wrthfiotig gywir. Nid yw gwrthfiotigau yn cael unrhyw effaith ar firysau ac os tybir ei fod o darddiad firaol, mae'r fferyllydd yn rhoi cyngor i'r claf ar sut i wella orau, heb yr angen am wrthfiotigau. Mae'r gwasanaeth hefyd yn ceisio ail-gydbwyso’r rheolaeth o wddf tost acíwt rhwng meddygon teulu a fferyllwyr oherwydd os oes angen cyflenwad gwrthfiotig, gall y fferyllydd wneud hyn yn seiliedig ar gynlluniau dosrannu ymlaen llaw.

Dywedodd Dr Mantzourani: “Nod hirdymor ein tîm yw galluogi fferyllwyr i gynnig hunan-ofal trwy ‘Dewis Fferyllfa’, ac rydym yn falch iawn bod hyn wedi cael ei gydnabod ar lefel ryngwladol. Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi ein llongyfarch hefyd ar ein cyfraniad i'r GIG yng Nghymru.”

Rhannu’r stori hon